"Rwyf wedi cael fy nghefnogi i fynd ar drywydd cydweithrediadau ymchwil yn y DU a'r tu allan iddi, gan gynnwys ymweliadau â Tsieina, sydd wedi rhoi safbwynt byd-eang imi ar fy ngwaith ymchwil fy hun"

- Dan, Peiriannydd Ymchwil

NODDWYR DIWYDIANNOL

MAE M2A YN CYNNIG DULL HYGYRCH A FFORDDIADWY AR GYFER YMGYSYLLTU MEWN GWAITH YMCHWIL PRIFYSGOL. DRWY NODDI MYFYRIWR, BYDDWCH YN ENNILL MYNEDIAD I'N CYFLEUSTERAU AROBRYN, ACADEMYDDION ARWEINIOL AC YMCHWILYDD DYNODEDIG I YMGYMRYD Â'CH PROSIECT.

MAE M2A YN CYNNIG GRADDAU MEISTR (1 FLWYDDYN) A DOETHURIAETHAU (4 BLYNEDD) SY'N CANOLBWYNTIO AR BROSIECTAU YMCHWIL DIWYDIANNOL MEWN DEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU. MAE GAN EIN GWAITH YMCHWIL DRI PRIF FAES FFOCWS:

MODELU CYFRIFIADOL
HAENAU SWYDDOGAETHOL
DEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU

Y Manteision

  • Ymchwil a datblygu diwydiannol â chymhorthdal sy’n arwain y sector.
  • Cyfleusterau ac arbenigedd arobryn ym Mhrifysgol Abertawe, canolfan academaidd yn y 10 uchaf yn y DU ar gyfer ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
  • Ffynhonnell sefydlog o dalent arobryn ym maes ymchwil ar gyfer eich busnes.

Eich Ymrwymiad

  • £10,500 + TAW y flwyddyn (£42,000 i gyd) ar gyfer EngD
  • £4,500 + TAW ar gyfer gradd Meistr
  • Goruchwyliwr diwydiannol dynodedig

Yr Hyn y Byddwch yn ei Gael

  • Ymchwilydd dynodedig sy’n cael ei dalu cyflog i gefnogi ei astudiaethau.
  • Mynediad i’r cyfleusterau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer yr ymchwilydd.
  • Goruchwyliwr academaidd dynodedig ym maes pwnc yr ymchwil.
  • Traethawd ymchwil wedi’i gwblhau o’r ymchwil ar ddiwedd y rhaglen astudio.

PROSIECTAU ENGHREIFFTIOL

  • Perfformiad cyrydiad deunyddiau peirianneg newydd
  • Datblygu’r genhedlaeth nesaf o fformwleiddiadau paent
  • Datblygiad paratowyr cyn triniaeth ar gyfer adeiladu cynhyrchion amlenni
  • Haenau gwrthstaen
  • Datrysiadau storio ynni ar gyfer tyrbinau gwynt
  • Datblygu dyfeisiau ffotofoltäig tryloyw
  • Datblygu arddangosiadau electronig argraffedig
  • Dynameg Hylif Cyfrifiadol llif hylif mewn cymwysiadau diwydiannol
  • Modelu ffurfiadwyedd cyflym metelau

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.