Gwybodaeth Allweddol

Cwmni sy’n Noddi: CubeX Industries Limited

Goruchwylir Academaidd: Dr Clare Wood , ail oruchwyliwr i’w gadarnhau

Goruchwyliwr Diwydiannol: Charles Phelines

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Mae CubeX Industries (www.cubexindustries.co.uk) yn gwmni wedi’i leoli yn y DU a sefydlwyd yn 2019, gyda chanolfan weithgynhyrchu ac ymchwil ger Tunbridge Wells yn Nwyrain Sussex. Mae ei sylfaenydd, Charles Phelines, wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn gweithio ar ystod eang o brosiectau dylunio ac adeiladu llafurus drwy’r byd, gan gynnwys yn Asia, y Dwyrain Canol ac Ewrop. Mae wedi datblygu a gweithgynhyrchu systemau sylfaen cyflym a wal a tho gan ddefnyddio dur a choncrit ysgafn ac mae’n mynd i’r afael â phrosiectau gyda ffocws penodol ar dechnoleg deunydd adeiladu cynaliadwy.

Mae concrit traddodiadol yn ddeunydd gwydn o gymharu ag eraill. Fodd bynnag, gall mecanweithiau diraddiol megis atgyfnerthu dur sy’n rhydu, carboneiddio a threiddiad clorid arwain at hyd oes byrrach. Gellir defnyddio concrit perfformiad uchel iawn (UHPC), fodd bynnag, mewn amgylcheddau anodd megis defnyddiau morol a lle mae’n agored i dywydd oer o ganlyniad i’r gwydnwch uchel mae’r deunydd yn ei gynnig. Gyda gallu cynnal pwysau uchel, mae UHPC hefyd yn gallu creu adeileddau mwy main sy’n defnyddio llai o goncrit a mwy o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, gan hefyd fod yn fwy cystadleuol o ran cost na choncrit confensiynol. Mae felly yn opsiwn amgen cynaliadwy i goncrit traddodiadol heb amheuaeth, gan alluogi dyluniadau cain gyda manylder arwyneb manwl.

Mae CubeX yn cynnig ystod o ddatrysiadau concrit gweledol ac adeileddol perfformiad uchel iawn pwrpasol, gan gyfuno perfformiad a dyluniad concrit perfformiad uchel iawn (UHPC) i ymrymuso penseiri, dylunwyr a pheirianwyr gyda gwell opsiynau sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol eu prosiectau adeiladu. Yn gwmni hyblyg â ffocws cryf, mae CubeX yn dylunio a gweithgynhyrchu datrysiadau UHPS pwrpasol sy’n bodloni gofynion adeileddol, estheteg a chynaliadwy pob prosiect.

Mae CubeX yn ymrwymedig i welliant parhaus, gyda phwyslais penodol ar wneud ei gynnyrch yn fwy cynaliadwy a chyflawni gwell datrysiadau ar gyfer yr amgylchedd. I’r perwyl hwn, mae cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe yn barhaus drwy nifer o linynnau. Mae un prosiect nodedig yn cynnwys prosiect Sea-Hive Bae Abertawe (www.swansea.ac.uk/bioscience/seacams-2/mumbles-sea-hive-project), rhan o’r prosiectau ymchwil SEACAMS2 ac ECOSTRUCTURE. Mae CubeX wedi gweithio ar y cyd ag academyddion o’r Adran Biowyddorau i ddatblygu cynnyrch concrit morglawdd mwy ecogyfeillgar, gan ymchwilio i ystod o weadeddau arwyneb i ddenu bywyd ar y traeth. Mae 13 panel gyda phatrymau arbennig wedi’u mowldio  wedi cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio cynnyrch UHPC pwrpasol CubeX, cyn eu sgriwio a’u bondio’n gemegol i’r morglawdd mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Bae Abertawe. Ar ôl tri mis, cafwyd bywyd ar y traeth yn cytrefu gyda hyd at 260 o wyddau môr yn ymgartrefu ar y paneli. Bydd yr ardal hon o ymchwil arwynebau concrit morol-gyfeillgar yn parhau drwy ffurfio cwmni cofrestredig ar wahân o’r enw “BlueCube Marine”.

O’r safbwynt peirianneg, mae’r deunyddiau cyfansoddol sy’n mynd i’n cymysgedd, a pherfformiad tymor hir ein cynhyrchion, yn hanfodol. Mae ymchwil gydweithredol, a arweinir gan Dr Clare Wood o’r Adran Peirianneg Sifil, yn ceisio ymchwilio i ddefnydd sgil-gynhyrchion mwy cynaliadwy, deunyddiau wedi’u hailgylchu a strategaethau ar gyfer lleihau cynnwys sment a chynnwys dŵr croyw yn ein UHPC, heb amharu ar berfformiad. Mae dau brosiect cam cynnar sy’n mynd rhagddynt yn canolbwyntio ar fathau amgen o bosolanau ac agregau mân, a chymysgeddau UHPC dŵr môr yn eu tro. Mae nifer o feysydd ymchwil pellach wedi’u nodi, a thri ohonynt wedi’u cynnwys yn y cynnig prosiect hwn ar gyfer eu datblygu o fewn prosiect MSc trwy Ymchwil.

Nodau’r Prosiect:

Gan adeiladu ar waith blaenorol a gynhaliwyd yn y prosiect Sea-Hive, rydym wedi nodi y gallai gwaith pellach yn canolbwyntio ar yr agwedd datblygu deunyddiau o’n cynnyrch UHPC (yn hytrach na’r gwaith gweadu arwyneb a archwiliwyd yn flaenorol) arwain at gamau sylweddol pellach tuag at gynnyrch UHPC bio-forol gyfeillgar. Bydd y gwaith yn ceisio ymchwilio i’r effaith mae’r deunyddiau cyfansoddol i’r cymysgedd yn ei chael ar gemeg ein cynnyrch UHPC ac yn ceisio deall p’un a yw hyn yn arwyddocaol i gytrefu gan fywyd ar y traeth / morol (mae ymchwil bresennol yn y llenyddiaeth yn tueddu i ganolbwyntio ar goncrit normal, nid UHPC, ac mae’r canlyniadau o’r ymchwil honno yn gymysg iawn). At hynny, rydym yn ceisio adeiladu ar ein profiad o gyfuno UHPC â haenau gweithredol ffotogatalytig (sy’n cael eu defnyddio’n nodweddiadol at ddibenion esthetig) i archwilio haenau bio-gyfeillgar a allai gyflymu cytrefu gan fywyd ar y traeth / morol drwy lyniad/sgaffaldio gwell â’r arwyneb neu ddarpariaeth maethynnau hanfodol.

Mae gwaith ymchwil Dr Alvin Orbaek-White wedi’i ganolbwyntio ynghylch (1) gwella’r seilwaith ynni gan ddefnyddio nano-diwbiau carbon i drosglwyddo trydan a (2) defnyddio gwastraff carbon mewn cynhyrchion gwerth mwy megis nano-tiwbiau carbon. Mae nano-tiwbiau carbon eisoes yn cael eu hadnabod fel atgyfnerthiad effeithiol mewn UHPC, sy’n gallu gwella ei briodweddau mecanyddol yn sylweddol. Mae’r ymchwil cam cynnar hon rhwng CubeX a Phrifysgol Abertawe felly yn ceisio adeiladu ar y gwelliannau posibl hyn mewn dyluniad cymysgedd cynaliadwy wrth hefyd ymchwilio i ddefnyddiau strategol ar gyfer y cynnyrch UHPS nano-tiwbiau carbon cyfansawdd, er enghraifft darparu amddiffynnydd ymyrraeth electromagnetig, deunyddiau hunan-synhwyraidd (e.e. ar gyfer synhwyro craciau mewn concrit), ac UHPC dargludol ar gyfer defnydd arloesol o rwydweithiau trydanol.

Mae bariau atgyfnerthu basalt ag ymwrthedd uchel i gyrydiant, ac felly mae’n addas iawn ar gyfer amgylcheddau morol a defnyddiau cemegol, lle mae cyrydiant yn bryder parhaus. Mae cydweithrediad ymchwil cam cynnar parhaus gyda Dr Clare Wood a chyflenwr deunydd atgyfnerthu basalt arbenigol TechnoBasalt (Wcráin) yn ceisio archwilio defnyddiau ar gyfer UHPC wedi’i atgyfnerthu â ffeibr basalt a bariau atgyfnerthu basalt fel gwelliant i atgyfnerthu dur confensiynol.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: CubeX Industries Ltd

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £12,500, y ddau ar gyfer cyfnod o un flwyddyn.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk