CYMHWYSEDD

Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hariannu, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fodloni’r meini prawf a osodir gan ein harianwyr, sef Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), ac, os ydynt yn cyflwyno cais am Ddoethuriaeth mewn Peirianneg, Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Mae’r canlynol yn orfodol gan bob ymgeisydd:
  • Meddu ar / anelu at o leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) (neu gyfwerth) mewn disgyblaeth Peirianneg neu Wyddorau Ffisegol berthnasol erbyn dyddiad dechrau’r prosiect. Gall cyfuniad o gymwysterau a/neu brofiad cyfwerth â’r lefel honno gael ei ystyried yn ôl disgresiwn y brifysgol;
  • Yr hawl gyfreithiol i fyw/weithio yn y DU wrth gychwyn eich astudiaethau;
  • Bod â chyfeiriad preswyl yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (yr ardal wedi’i huwcholeuo mewn pinc tywyll ar y map cyferbyn), neu, os yw’n cael cynnig ysgoloriaeth ymchwil, ymrwymo i fod yn breswylydd yn y rhanbarth hwn wrth gofrestru; a
  • Methu â chymryd rhan yn ariannol heb ddyfarniad y cyllid grant, h.y. heb fod ag arian sy’n fwy na £71,000.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr Doethuriaethau mewn Peirianneg hefyd gydymffurfio â’r canlynol:
  • Wedi bod yn ‘breswylydd arferol’ yn y DU am y tair blynedd ddiwethaf cyn cychwyn yr ysgoloriaeth ymchwil, h.y. yn byw yn y DU fel arfer ar wahân i absenoldebau dros dro neu achlysurol.

Am feini prawf myfyrwyr EPSRC llawn, edrychwch yma.

Rydym yn cydnabod bod canllawiau EPSRC yn nodi y gall hyd at 30% o fyfyrwyr newydd mewn carfan gael eu dosbarthu fel rhai ‘rhyngwladol’; fodd bynnag, nid oes modd defnyddio’r hyblygrwydd hwn oherwydd bod yn rhaid i’n hymgeiswyr Doethuriaeth mewn Peirianneg hefyd fodloni’r meini prawf WEFO a amlinellir uchod. Am ragor o wybodaeth am ddosbarthiad ‘rhyngwladol’, dylech edrych yma.   

Yn ogystal, fel arfer byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob adran) wrth gyflwyno cais. 

Nid yw graddedigion gradd Meistr yn gymwys i gyflwyno cais am radd Meistr bellach ac nid yw graddedigion Doethuriaeth mewn Athroniaeth (PhD) yn gymwys i gyflwyno cais am radd Meistr na Doethuriaeth mewn Peirianneg.  

Gwladolion yr UE

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, yn amodol ar ddeddfwriaeth, y bydd yn darparu cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir sy’n elwa ar hawliau dinasyddion o dan y cytundebau ymadael amrywiol – dylech edrych yma.  Os yw hyn yn berthnasol i chi, yna efallai y byddwch yn gymwys.

Os ydych yn ansicr a ydych yn bodloni’r gofynion cymhwysedd, cysylltwch â ni.

Noder, nid yw ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gyflwyno cais am Fenthyciad Doethurol Ôl-raddedig.

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.