CROESO I COATED M2A

Cychwynnodd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn 2015 gyda'r nod o greu arweinwyr diwydiant Cymru'r dyfodol drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan ddiwydiant. Mae M2A yn adeiladu ar 25 mlynedd o brofiad o ddarparu Doethuriaethau Peirianneg a dyma oedd un o'r canolfannau arloesol ar gyfer darparu cymwysterau Doethuriaethau Peirianneg. Mae M2A wedi mwyafu ar swm y cyllid sydd ar gael trwy ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i fanteisio i’r eithaf ar arian UKRI, gan gynnwys dwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Haenau Swyddogaethol yn y gweithrediad.

Mae COATED M2A yn troi myfyrwyr yn Beirianwyr Ymchwil sy’n meddu ar sgiliau uwch i ddatrys problemau diwydiannol a datblygu ffiniau academaidd y ddisgyblaeth.

Er mwyn cefnogi’n myfyrwyr, caiff yr holl Beirianwyr Ymchwil eu goruchwylio gan academyddion a diwydianwyr yn ogystal â derbyn mentora gan gydweithwyr i’w tywys drwy eu gwaith ymchwil a gyrfa ddilynol.

Bydd holl ffioedd dysgu Peirianwyr Ymchwil yn cael eu talu a byddant yn derbyn cyflog hael i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw’r cyflog hwn yn gymwys am ddidyniadau (treth, yswiriant gwladol, benthyciad myfyrwyr ac ati).

  • EngD: £20,000 y flwyddyn (cyfwerth â chyflog o ~£28,000)
  • MSc: £12,500 y flwyddyn (cyfwerth â chyflog o ~£15,000)

Fel dangosydd, cyflog y peiriannydd ôl-raddedig arferol yw ~£26,000, ac mae’n gyffredin i’n graddedigion ddatblygu’n gyflym yn eu gyrfa o ganlyniad i’r sgiliau maent wedi’u hennill wrth gwblhau eu cymhwyster uwch.

Yn ogystal â’r cymorth ariannol hael, mae yna lawer o gyfleoedd i rwydweithio ac arddangos gwaith mewn digwyddiadau masnach a chynadleddau rhyngwladol ym mhedwar ban byd.

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.