"Yn y cyfnod heriol hwn, bydd y Ddoethuriaeth mewn Peirianneg (EngD) yn arwain at gyfleoedd diddiwedd"

- Victoria, Peiriannydd Ymchwil

Oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn ar ddoethuriaeth neu gymhwyster ôl-raddedig gradd meistr ym mis Hydref 2021, lle cewch gyflog hael a noddwr diwydiannol i weithio gyda chi?

Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Haenau Diwydiannol Swyddogaethol

Mae'r Ganolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Haenau Diwydiannol Swyddogaethol, COATED2, yn darparu cyfleoedd ymchwil cyffrous i ddatblygu ac uwchraddio haenau uwch ar gyfer creu, storio a rhyddhau ynni. Mae yna ffocws sylweddol hefyd ar wydnwch deunyddiau o'r fath o ran ystyried diraddiad amgylcheddol a chyrydiad.

Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

Mae'r ffrwd dechnegol hon yn darparu gwybodaeth dechnegol arbenigol ym mhob maes Deunyddiau a Gweithgynhyrchu. Mae meysydd prosiectau cyfredol yn cynnwys pynciau ymchwil mor amrywiol â meteleg dur uwch, gweithgynhyrchu deunyddiau cyfansawdd a modelu cyrff cychod cyflym uwch.

Taylor, T. KimaJ.Zhanga, K. Penney, D. and Yanagimotoa, J TRIP assisted press hardened steel by the anisothermal bainitic ferrite transformation. Journal of Materials Processing Technology Volume 289, March 2021, 116950
View

Potts, S.-J., Phillips, C., Claypole, T., Jewell, E. The effect of carbon ink rheology on ink separation mechanisms in screen-printing. 2020 Coatings, 10(10), art. no. 1008, pp. 1-17.
View

Wint, N., Malla, A.D., Cooze, N., Savill, T., Mehraban, S., Dunlop, T., Sullivan, J.H., Penney, D., Williams, G and McMurray, N.H. The ability of Mg2Ge crystals to behave as ‘smart release’ inhibitors of the aqueous corrosion of Zn-Al-Mg alloys. Corrosion Science, November 2020
View

Allman, A., Whiteside, J., Jewell, E., Griffiths, C., McMurray, N., de Vooys, A. Surface modification of Cr(III) packaging substrates for enhanced adhesion via citric acid processing. Surfaces and Interfaces. Volume 20, September 2020, Article number 100545
View

Davies, P.D., Davies, H.M., Watkins, I., Britton, D.A. The joining of gamma titanium aluminides via the powder interlayer bonding method. International Journal of Advanced Manufacturing Technology. Volume 109, Issue 7-8, 1 August 2020, Pages 2049-2054
View

Liu, X., Ouyang, M., Orzech, M.W. et al In-situ fabrication of carbon-metal fabrics as freestanding electrodes for high-performance flexible energy storage devices. Energy Storage Materials Volume 30, September 2020, Pages 329-336
View

Burkitt, D., Patidar, R., Greenwood, P., Hooper, K., McGettrick, J., Dimitrov, S., Colombo, M., Stoichkov, V., Richards, D., Beynon, D., Davies, M., Watson, T. Roll-to-roll slot-die coated P-I-N perovskite solar cells using acetonitrile based single step perovskite solvent system. Sustainable Energy and Fuels. Volume 4, Issue 7, July 2020, Pages 3340-3351
View

Daniel J.C.Stewart and Andrew R.Barron Pyrometallurgical removal of zinc from basic oxygen steelmaking dust – A review of best available technology. Resources, Conservation and Recycling, Volume 157, June 2020, 104746
View

Yates, H.M., Hodgkinson, J.L., Meroni, S.M.P., Richards, D., Watson, T.M Flame Assisted Chemical Vapour Deposition of NiO hole transport layers for planar perovskite cells. Surface and Coatings Technology. Volume 385, 15 March 2020, Article number 125423
View

Claypole, A., Claypole, J., Holder, A., Claypole, T.C., Kilduff, L. Rheology of high-aspect-ratio nanocarbons dispersed in a low-viscosity fluid. Journal of Coatings Technology and Research. Volume 17, Issue 4, 1 July 2020, Pages 1003-1012
View

Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gwmnïau a phrosiectau ymchwil. Gan fod yr holl brosiectau’n canolbwyntio ar ddiwydiant, mae’r cwmni sy’n noddi’n derbyn allbynnau diriaethol gan bob peiriannydd ymchwil. 

Yn gyffredinol, nod y gweithrediad yw cyflawni effaith o’r ymchwil rydym yn ei chynnal. Mae natur y prosiectau’n golygu bod ein hymchwil yn uniongyrchol berthnasol i ddiwydiant a chymdeithas, ac y ceir manteision clir ar gyfer cyflogadwyedd ein peirianwyr ymchwil. Mae’r gweithrediad yn cynnal ffocws ar gyfiawnhad yr ymchwil a dealltwriaeth o effaith darged gyffredin y prosiect drwy lunio posteri effaith ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, cynnwys diweddariadau ar effaith mewn adroddiadau blynyddol, a llunio adroddiad effaith terfynol ar ddiwedd y prosiect. Yn ogystal, mae’r ymchwilwyr yn canolbwyntio ar yr effaith bosib y gallant ei gwneud ar yr amgylchedd ymchwil, gan gadw llygad craff ar ymchwil ac arloesedd cyfrifol a gefnogir gan fodiwlau hyfforddi yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect.

Mae effeithiau arferol sy’n codi o’n prosiectau’n cynnwys y canlynol:

  • Creu cynhyrchion newydd
  • Gwelliannau clir i brosesau
  • Datblygu unigolion i ragori yn eu gyrfaoedd
  • Datblygiadau graddol i gynhyrchion
  • Gwelliannau graddol i brosesau
  • Cyfraniad at sail wybodaeth wyddonol – cyhoeddiadau a chynadleddau

Alaa Alaizok Prof. Davide Deganello, Dr. Christopher Phillips Craig Hardwick. The rheological and physiochemical properties of meat exudate found in meat packaging trays (POSTER). 29th World Conference on Food and Beverages, 27th August 2020

James Grant Dr Amit Das Development of novel coatings for the reduction of high temperature oxidation in carbon steel tubes. 3rd Postgraduate Research Symposium on Ferrous Metallurgy. London, UK, 25th February 2020.

James Lelliot Dr Douglas Figueroa-Gordon, Prof Neil McMurray and Dr Elizabeth Sackett. Effect of microstructure and test parameters on hydrogen permeation in ultra-high-strength steels. 3rd Postgraduate Research Symposium on Ferrous Metallurgy. London, Uk, 25th February 2020.

Rebecca Dewfall Dr Soran Birosca and Dr Vladimir Basabe Blister formation in high strength steels during hot rolling (POSTER). 3rd Postgraduate Research Symposium on Ferrous Metallurgy. London, UK, 25th February 2020.

Caroline Norrish Dr Richard Underhill, Mr Carlos Llovo-Vidal, Prof Cameron Pleydell-Pearce and Prof Nicholas Lavery. Using rapid alloy prototyping to understand the effects of residual elements on a low alloy steel (POSTER). 3rd Postgraduate Research Symposium on Ferrous Metallurgy. London, UK, 25th February 2020.

Daniel Stewart Prof Andrew Barron Rapid, accurte metallic iron analysis for ironmaking materials (POSTER). 3rd Postgraduate Research Symposium on Ferrous Metallurgy. London, UK, 25th February 2020

Benjamin Cummings Patient specific bone phantom models for pre-surgical planning and education (POSTER) Future Materials Conference, Leeds, 17th December 2019

Liam Cotton Dr Shahin Mehraban, Dr Tom Dunlop and Professor Cameron Pleydell-Pearce An Industrial Study Of The Change In Behaviour Of Microporous Insulation In Teeming Ladles. UNITECR, Tokyo, Japan, 12-17th October 2019.

Gethin Llewellyn Low-Pressure Microcellular foaming of polypropelene through Chemical, Physical, hybrid foaming agents. SPE Foams, 2-3rd October 2019, Valladolid, Spain.

Potts, S.-J Phillips, C., & Claypole, T. High speed imaging of ink separation in screen-printing. Proceedings of 46th International Research Conference of Iarigai, Stuttgart, 15-18 September 2019. Page 8

Menter Prifysgol Abertawe yw Coated M2A sy'n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig dan arweiniad diwydiant ym meysydd deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Wedi'i hariannu'n llawn gan WEFO, EPSRC a diwydiant, gall M2A gynnig 24 o leoedd EngD ac wyth lle ymchwil MSc bob blwyddyn, ynghyd â graddau PhD a meistr rhan-amser.

“Roedd y gymuned ymchwil wedi'i meithrin drwy fod yn rhan o garfan fawr o beirianwyr ymchwil yn golygu fy mod yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gan grŵp o gymheiriaid tebyg, hyd yn oed wrth ymgymryd â rhywbeth mor ddychrynllyd o bosib â doethuriaeth."

- Dan, Peiriannydd Ymchwil

“MAE CAEL CEFNOGAETH DIWYDIANT WRTH YMGYMRYD Â’R ENGD WEDI FY HELPU I DDATBLYGU CYSYLLTIADAU HIRHOEDLOG Â’R CWMNI SYDD YN FY NODDI, SEF CYNHYRCHYDD DUR SYDD UN O’R DEG MWYAF YN Y BYD"

- Josh, Peiriannydd Ymchwil

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.