[elementor-template id=”4562″]

Facebook


Twitter


Instagram


Linkedin

“Mae cael cefnogaeth diwydiant wrth ymgymryd â’r EngD wedi fy helpu i ddatblygu cysylltiadau hirhoedlog â’r cwmni sydd yn fy noddi, sef cynhyrchydd dur sydd un o’r deg mwyaf yn y byd”

– Dan, Peiriannydd Ymchwil

MYFYRWYR

EIN NOD YW EICH TROI’N UNIGOLYN CYFLAWN, HYNOD GYFLOGADWY A FYDD YN BAROD AR GYFER EICH GYRFA – I BA GYFEIRIAD BYNNAG Y BYDD HYNNY.

Lleoedd Gwag EngD

TitleCompanyClosing Date
EPSRC ICASE PHD - ENVIRONMENTAL AND COMMERCIAL SUSTAINABILITY OF BLAST FURNACE SINTER MANUFACTURINGEPSRC iCASE Award &TATA Steel31 May 2021
DEVELOPMENT OF A ZINC-MAGNESIUM-ALUMINIUM METALLIC COATING FOR USE WITH PRE-FINISHED STEELS IN THE CONSTRUCTION INDUSTRYTata Steel UK, Colors11 June 2021

Lleoedd Gwag MSc

TitleCompanyClosing Date
3D Modelling of High-Temperature Heat transfer in Hot RollingTata Steel Europe11 June 2021
Improving Efficiency of Wastewater Treatment at Morfa Coke OvensTata Steel Europe18 June 2021
Novel Nanostructured Anodes for Green Energy Battery StorageJohnson Matthey1 June 2021

Cynhadledd Flynyddol

Cynhadledd Flynyddol

Bob blwyddyn, mae M2A yn cynnal cynhadledd flynyddol lle mae gan yr holl beirianwyr ymchwil y cyfle i gyflwyno’u gwaith i gynulleidfa gymysg o academyddion a diwydianwyr yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae. Mae presenoldeb da yn y digwyddiad hwn, ac mae cinio’r gynhadledd yn rhoi cyfle gwych ar gyfer rhwydweithio ac ehangu eich cysylltiadau.
























Her Haenau

Nod yr EngD yw creu graddedigion sydd yn barod i wneud effaith ar yr holl lefelau parodrwydd technoleg drwy ddefnyddio eu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer eu problemau ymchwil. Er mwyn annog arloesedd, rhannu arfer gorau a datblygu gwaith tîm carfannau, mae’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol wedi datblygu her haenau croes-garfan flynyddol. Bydd yr her yn dod â charfannau ym Mlwyddyn 2 a 3 ynghyd am bythefnos i ddylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch m2 â haen swyddogaethol, ynghyd â chynllun busnes a strategaeth farchnata, y byddant yn ei gyflwyno i banel o arbenigwyr y diwydiant. Nod yr her yw i dîm o Beirianwyr Ymchwil weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio eu gwybodaeth wrth ddatblygu haen i ddatrys problem bywyd go iawn. Nid yn unig y mae’r her yn defnyddio rhagoriaeth academaidd yr ymchwilydd, ond mae hefyd yn rhoi profiad o ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddatrys problem o fewn amserlen fer a rhoi ystyriaeth i’r gofynion busnes – rhywbeth y byddant hefyd yn ei wynebu yn eu gyrfaoedd.

Cyflogadwyedd

Cyflogadwyedd

Ar hyn o bryd, mae 97% o’n graddedigion mewn cyflogaeth!

Yn y pen draw, eich cymhwyster ôl-raddedig yw carreg sarn i gael swydd. Yn ogystal â’ch cymhwyster, byddwch wedi ennill sgiliau ymchwil a phroffesiynol niferus y mae modd eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’ch gyrfa broffesiynol ac a fydd yn tynnu sylw atoch mewn cyfweliad. Mae sgiliau o’r fath yn cynnwys – dadansoddi, arbenigedd pwnc, cyflwyno, siarad cyhoeddus, y gallu i gyflwyno i uwch-reolwyr a staff llawr y siop fel ei gilydd, llunio adroddiadau, a llawer mwy.

Mae llawer o raddedigion yn dewis derbyn swydd gyda’u noddwr. Mae eich prosiect yn ffurfio cyfweliad estynedig yn y bôn ar eich cyfer chi a’ch noddwr. Mae’n rhoi’r cyfle i chi werthu eich hun i’ch noddwr ac i’ch noddwr werthu ei hun i chi – wedi’r cyfan, rydych bellach yn hynod gyflogadwy.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn ymgymryd â rolau gwahanol niferus yn y maes diwydiant ac academaidd yn ogystal ag archwilio cyfleoedd mewn sectorau eraill. Mae swyddi cychwynnol yn cynnwys peirianwyr proses ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol, hyd at ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Wrth i amser fynd heibio, rydym yn gweld ein cyn-fyfyrwyr yn ymgymryd â rolau uwch fel rheolwyr technegol, cyfarwyddwyr, darlithwyr ac athrawon cadeiriol, ac mae rhai hyd yn oed yn symud i ddisgyblaethau eraill fel meddygaeth.

Dyma rai proffiliau ein cyn-fyfyrwyr:







Bywyd Myfyrwyr

Dull Carfan

Mae M2A yn ffordd wych o gyflawni hyfforddiant academaidd parhaus wrth weithio gyda noddwr o’r diwydiant, ond mae agwedd gymdeithasol wych i’r rhaglen M2A hefyd.  Unwaith  y byddwch wedi cael eich derbyn ar y cynllun, byddwch  yn ymuno â ni fel rhan o garfan fel na fyddwch  byth ar eich pen eich hunan.  Byddwch yn rhan o gymuned groesawgar ac yn cael digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau newydd, p’un a ydych  yn astudio modiwlau ôl-raddedig gyda’ch gilydd, neu’n gweithio gyda’ch gilydd yn y labordai yn ystod eich gwaith ymchwil.  Byddwch yn ymuno â charfan o 120 o unigolion o’r un anian, gan ddarparu cymorth i’ch gilydd a rhannu arfer gorau drwy eich taith ymchwil. Fel rhan o’r garfan fwy, bydd gennych nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac academaidd yn ogystal â chyfleoedd i ymuno mewn digwyddiadau allgymorth i helpu i annog mwy o unigolion i fod yn rhan o’r ddisgyblaeth.


Taith o Safle Diwydiannol

Bob blwyddyn, mae’r ymchwilwyr blwyddyn gyntaf yn mynd ar daith safle diwydiannol o amgylch rhai o safleoedd gweithgynhyrchu arweiniol y DU .  Mae’r daith yn rhoi cyfle i ennill dealltwriaeth o sut mae gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn cael ei gwblhau ac ennill dealltwriaeth o sut y gall eich ymchwil gael ei defnyddio yn y sector.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymweld â safleoedd fel Jaguar Land Rover, JCB, Airbus, Mini, Fusion Energy, Lotus, Morgan a Tata Steel.

Digwyddiadau Cymdeithasol

Mae yna Bwyllgor Cymdeithasol sy’n cwrdd yn rheolaidd i gynllunio gweithgareddau llawn hwyl, gan roi digon o gyfleoedd i chi ymlacio y tu allan i’r swyddfa.  Mae  hyd yn oed Diwrnod Mabolgampau blynyddol i fanteisio ar ein lleoliad glan môr am ddiwrnod llawn hwyl yn yr haul! Mae gweithgareddau eraill wedi cynnwys nosweithiau cwis, gwibgertio, a phadlfyrddio ar eich traed.





















Allgymorth

Mae yna ddigon o gyfleoedd drwy’r flwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth, gan ymgysylltu â’r cyhoedd i ledaenu’r neges am bynciau STEM. Mae hyn yn amrywio o ymweliadau lleol ag ysgolion i gynnal pebyll â thema gwyddoniaeth mewn gwyliau. Mae yna hyd yn oed Bwyllgor Allgymorth i ganfod syniadau newydd am sut i ymgysylltu ag eraill am y gwaith diddorol sy’n cael ei wneud, a sut i sbarduno diddordeb y cyhoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr y dyfodol!

























Goruchwylwyr Academaidd

CWRDD Â RHAI O’N GORUCHWYLWYR ACADEMAIDD

CAIFF ABERTAWE EI CHYDNABOD FEL UN O BRIFYSGOLION ARWEINIOL Y DU AR GYFER PEIRIANNEG.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn graddio Peirianneg yn Abertawe fel degfed yn y DU am y sgôr gyfunol yn ansawdd ymchwil ar draws disgyblaethau Peirianneg.

Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos bod 94% o’r gwaith ymchwil a gynhyrchir gan ein staff academaidd o safon sy’n Arwain y Byd (4*) neu o safon Rhagorol yn Rhyngwladol (3*).

Mae’r EngD yn gyfwerth â PhD yn nhermau ei her ddeallusol, ond fel Peiriannydd Ymchwil (myfyriwr EngD), bydd eich ymchwil yn cael ei harwain gan y diwydiant a bydd eich prosiect yn cynnwys gweithio gyda chwmni. Mae’r rhaglen yn cynnwys adran a addysgir, sy’n ymwneud â hyfforddiant technegol a rhyngbersonol ac ym maes rheoli. Mae’r sgiliau uwch hyn yn cyd-fynd â manyleb Cyngor Peirianneg y DU a byddant yn helpu’ch taith i siarteriaeth a chydnabyddiaeth broffesiynol.

[elementor-template id=”1932″]