[elementor-template id=”4562″]
Facebook
Twitter
Instagram
Linkedin
“Rwyf wedi cael fy nghefnogi i fynd ar drywydd cydweithrediadau ymchwil yn y DU a’r tu allan iddi, gan gynnwys ymweliadau â Tsieina, sydd wedi rhoi safbwynt byd-eang imi ar fy ngwaith ymchwil fy hun”
– Dan, Peiriannydd Ymchwil
NODDWYR DIWYDIANNOL
MAE M2A YN CYNNIG DULL HYGYRCH A FFORDDIADWY AR GYFER YMGYSYLLTU MEWN GWAITH YMCHWIL PRIFYSGOL. DRWY NODDI MYFYRIWR, BYDDWCH YN ENNILL MYNEDIAD I’N CYFLEUSTERAU AROBRYN, ACADEMYDDION ARWEINIOL AC YMCHWILYDD DYNODEDIG I YMGYMRYD Â’CH PROSIECT.
MAE M2A YN CYNNIG GRADDAU MEISTR (1 FLWYDDYN) A DOETHURIAETHAU (4 BLYNEDD) SY’N CANOLBWYNTIO AR BROSIECTAU YMCHWIL DIWYDIANNOL MEWN DEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU. MAE GAN EIN GWAITH YMCHWIL DRI PRIF FAES FFOCWS:
MODELU CYFRIFIADOL
HAENAU SWYDDOGAETHOL
DEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU
Y Manteision
- Ymchwil a datblygu diwydiannol â chymhorthdal sy’n arwain y sector.
- Cyfleusterau ac arbenigedd arobryn ym Mhrifysgol Abertawe, canolfan academaidd yn y 10 uchaf yn y DU ar gyfer ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
- Ffynhonnell sefydlog o dalent arobryn ym maes ymchwil ar gyfer eich busnes.
Eich Ymrwymiad
- £10,500 + TAW y flwyddyn (£42,000 i gyd) ar gyfer EngD
- £4,500 + TAW ar gyfer gradd Meistr
- Goruchwyliwr diwydiannol dynodedig
Yr Hyn y Byddwch yn ei Gael
- Ymchwilydd dynodedig sy’n cael ei dalu cyflog i gefnogi ei astudiaethau.
- Mynediad i’r cyfleusterau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer yr ymchwilydd.
- Goruchwyliwr academaidd dynodedig ym maes pwnc yr ymchwil.
- Traethawd ymchwil wedi’i gwblhau o’r ymchwil ar ddiwedd y rhaglen astudio.
PROSIECTAU ENGHREIFFTIOL
- Perfformiad cyrydiad deunyddiau peirianneg newydd
- Datblygu’r genhedlaeth nesaf o fformwleiddiadau paent
- Datblygiad paratowyr cyn triniaeth ar gyfer adeiladu cynhyrchion amlenni
- Haenau gwrthstaen
- Datrysiadau storio ynni ar gyfer tyrbinau gwynt
- Datblygu dyfeisiau ffotofoltäig tryloyw
- Datblygu arddangosiadau electronig argraffedig
- Dynameg Hylif Cyfrifiadol llif hylif mewn cymwysiadau diwydiannol
- Modelu ffurfiadwyedd cyflym metelau
[elementor-template id=”1932″]