CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth yw EngD?
Dyma gymhwyster lefel PhD pedair blynedd o hyd lle pennir a noddir y prosiect ymchwil gan bartner diwydiannol. Mae’r EngD hefyd yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau busnes, rheoli ac arweinyddiaeth i wella cyflogadwyedd a chreu arweinwyr ym maes diwydiant.

Beth yw MSc drwy ymchwil?
Dyma gymhwyster gradd Meistr blwyddyn o hyd lle pennir a noddir y prosiect ymchwil gan bartner diwydiannol. Mae’n darparu profiad ymchwil gwerthfawr yn y byd diwydiannol ac academaidd.

Faint fydda i’n cael fy nhalu?
£20,000 y flwyddyn ar gyfer yr EngD.
£12,500 ar gyfer yr MSc drwy ymchwil.

Gyda phwy y byddaf yn gweithio?
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch noddwr o faes diwydiant, eich goruchwyliwr academaidd, a thîm cydlynu a rheoli M2A drwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich noddwr o faes diwydiant yn rhoi goruchwyliaeth ymchwil ac amser yn y diwydiant i chi, gan roi profiad gwerthfawr i chi. Bydd eich goruchwyliwr academaidd yn eich integreiddio i’w grŵp ymchwil, lle byddwch yn cysylltu ag amrywiaeth eang o bobl o israddedigion i ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth. Byddwch hefyd yn rhan o garfan o 24 o fyfyrwyr EngD ac wyth o fyfyrwyr MSC i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a gweithgareddau cymdeithasol.

Pa fath o noddwyr diwydiannol sy’n cymryd rhan?
Mae noddwyr prosiectau cyfredol yn cynnwys Tata Steel, BASF, NSG, Cogent Power, Bill & Melinda Gates Foundation, Perpetuus Carbon Technologies a llawer mwy.

Beth mae ymchwil ôl-raddedig yn ei olygu?
Mae ymchwil ôl-raddedig yn wahanol iawn i fywyd israddedig gan fod gennych nod ymchwil penodol ac mae’r ymchwil yn cael ei hysgogi gennych chi yn unig. Mae’n gyfwerth â swydd o ran oriau gwaith a gwyliau ond mae’n rhoi’r cyfle i chi wneud ymchwil greadigol a datblygu eich damcaniaethau gwyddonol eich hun, a’r cyfle i gyflawni arbrofion uwch mewn cyfleusterau arobryn.

Sut mae EngD yn gwella rhagolygon gyrfa?
Mae ein graddedigion EngD (y mae dros 200 ohonynt) wedi cyflawni cyfradd gyflogi o 97% ac mae llawer o’n cynfyfyrwyr bellach yn arweinwyr cwmnïau mawr. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau rydych yn eu hennill heb eu tebyg mewn cynlluniau ôl-raddedig ac mae’r rhyngwyneb â’r diwydiant yn sicrhau bod gan raddedigion bob elfen o fedrusrwydd er mwyn rhagori yn eu gyrfaoedd.

Sut mae’r EngD yn cymharu â PhD traddodiadol?
Yn gyffredinol, byddwch yn ennill mwy o brofiad diwydiannol yn ogystal â’r cyrsiau hyfforddi, sy’n rhoi sgiliau busnes, arweinyddiaeth a rheoli i chi. Mae’r rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddarpar gyflogwyr.

A ydw i’n talu ffioedd?
Bydd M2A yn talu’ch holl ffioedd i chi. Ni fyddwch yn talu unrhyw beth.

A yw’n agored i fyfyrwyr o’r tu allan i’r UE?
Nac ydy. Darperir yr arian ar gyfer M2A gan Lywodraeth y DU (EPSRC) a WEFO (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) ac felly bydd yn ariannu myfyrwyr o’r DU a’r UE yn unig.

Os byddaf yn ymgymryd ag EngD, faint o amser y byddaf yn ei dreulio mewn modiwlau a addysgir?
Yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn gyntaf, bydd gennych chwe modiwl technegol sy’n cael eu cynnal mewn fformat dwys o flociau o bythefnos. Yna bydd gennych chwe chwrs arall yn ystod y tair blynedd sy’n weddill sy’n canolbwyntio ar sgiliau busnes a rheoli er mwyn i chi baratoi ar gyfer ymadael â’r cynllun a chael eich cyflogi. Unwaith eto, caiff y rhain eu haddysgu mewn fformat byr, dwys o bythefnos.

A oes cyfle i deithio dramor?
Oes. Byddwn yn cynnig yr holl fyfyrwyr EngD y cyfle i gyflwyno eu hymchwil mewn cynhadledd ryngwladol (mae enghreifftiau blaenorol yn cynnwys Hawaii, Tsieina, Japan, LA) a chyfleoedd hefyd am secondiad mewn sefydliadau neu gwmnïau tramor.

Ble byddaf yn seiliedig?
Mae hyn yn dibynnu ar y technegau ymchwil y mae eu hangen ar y prosiect. Mae rhai myfyrwyr yn treulio’r holl amser gyda’u partner yn y diwydiant ac mae rhai yn y brifysgol, ond bydd y rhan fwyaf yn profi cymysgedd o weithgareddau diwydiannol ac yn y brifysgol.

Sut olwg sydd ar y cyfleusterau?
Mae M2A yn seiliedig ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe gwerth £450 miliwn. Cafwyd buddsoddiad o dros £10 miliwn mewn cyfarpar newydd ac mae hyn yn golygu bod gan Abertawe arbenigedd arobryn yn y canlynol:

– Delweddu a nodweddu deunyddiau

– Datblygu a chreu haenau

– Ymchwil ar gyrydu

– Technolegau argraffu

– Modelu ac efelychu cyfrifiadol

– Technegau gweithgynhyrchu uwch

A oes rhaid i mi weithio i’r cwmni noddi unwaith fy mod wedi gorffen?
Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio i’r cwmni sydd yn eich noddi, er y bydd y prosiect yn rhoi cyfle gwych i chi integreiddio yn y diwydiant sydd yn eich noddi.

Pa bwnc a dosbarth gradd y bydd eu hangen arnaf i fod yn gymwys i gymryd rhan ar y rhaglen M2A?
Mae unrhyw radd Peirianneg, Gwyddoniaeth, Mathemateg neu Gyfrifiadureg yn addas er mwyn cael mynediad. Mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni o leiaf 2:1 er mwyn cael eich derbyn ar y cynllun.

Beth yw’r broses recriwtio?
Mae recriwtio’n cynnwys cwblhau ffurflen gais i ddechrau. Yna gwahoddir ymgeiswyr addas am gyfweliad technegol sy’n cynnwys tîm rheoli’r rhaglen M2A, academyddion a noddwyr diwydiannol. Yna cynigir lle ar y cynllun i’r ymgeiswyr llwyddiannus.

A yw hyn yn cyfrif tuag at ennill siarteriaeth?
Bydd eich profiad ar y cynllun yn cyfrif tuag at siarteriaeth a gallwn roi mentoriaid i chi a all eich helpu i gychwyn ar y broses siarteriaeth.

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.