Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr AcademaiddYr Athro Trystan Watson (1af) a Dr Eifion Jewell (2il).

Goruchwyliwr y Diwydiant: i’w penderfynu

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Hoffai Tata Steel ddeall potensial ychwanegu deunyddiau sy’n creu ynni ffotoadweithiol at bortffolio o gynhyrchion dur er mwyn cyflawni gwerth ychwanegol. Mae hyn yn golygu gosod haenau gweithredol mewn trefn ddilynol ar gynhyrchion pensaernïol sy’n bodoli eisoes er mwyn creu cynnyrch ffotofoltaïg sy’n briodol i’w integreiddio’n uniongyrchol yn yr amgylchedd adeiledig.

Y dechnoleg ddewisol arfaethedig yw’r gell solar perfosgît. Mae celloedd solar perfosgît (PCSs) fel dyfeisiau cyflwr solet wedi arddangos y lefel uchaf o effeithlonrwydd o blith yr holl dechnolegau celloedd solar argraffedig. Bellach y record presennol ar gyfer PSC arwynebedd bach yw 25%. Yn aml caiff y dyfeisiau arwynebedd bach hyn eu prosesu gan ddefnyddio electrod pen aur neu arian anwedd sy’n gallu cynyddu’n sylweddol gost y ddyfais a golygu nad yw ei stac yn briodol i’w roi ar swbstrad anhryloyw.  Yn gyffredinol mae hyn yn golygu nad yw’r rhan fwyaf o fathau o bensaernïaeth celloedd perosgfît yn briodol ar gyfer swbstradau metel neu ddur.  Cafodd cell solar perfosgît gyntaf y byd ei chreu gan ddefnyddio swbstrad metel a gafodd ei datblygu a’i chyhoeddi gan Brifysgol Abertawe (gweler Troughton et al, Highly efficient, flexible, indium-free perovskite solar cells employing metallic substrates, J Mat Chem A 2015, 3, 9141).  Mae dwy ymagwedd bosibl ar gyfer defnyddio cynnyrch PV ar swbstrad dur:

  1. Gosod haenau’n uniongyrchol ar y metel ei hun yn olynol, lle bydd y swbstrad metel yn gweithredu fel electrod yn stac y ddyfais. Gallai hyn fod yn ddeunydd ffoil metel sydd wedyn yn cael ei lamineiddio ar ddur mwy priodol o safbwynt pensaernïol.
  2. Gosod haen inswleiddio drydanol ar gynnyrch caen dur organig sydd wedyn yn cael ei wneud yn fwy ymarferol drwy ychwanegu haen sy’n dargludo trydan ac wedyn ychwanegu deunyddiau ffotoadweithiol mewn trefn ddilynol.   Yna caiff y ddyfais ei chwblhau drwy ychwanegu haen ddargludo dryloyw a haenen rwystro. 

Bydd y myfyriwr llwyddiannus yn ystyried yr ymagweddau hyn ac yn gweithio gyda’r tîm ymchwil presennol i ddatblygu llwybr at arddangosydd celloedd solar argraffedig ar swbstradau dur.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk