Gwybodaeth Allweddol
Goruchwyliwr Academaidd: Yr Athro Davide Deganello, Yr Athro Serena Margadonna a Dr Zari Tehrani
Goruchwyliwr Academaidd: Dr Martin Peacock
Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mehefin 2022
Cefndir:
Mae cwmpas busnes Zimmer and Peacock yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu a datblygu synwyryddion electrogemegol, biosynhwyryddion, diagnosteg feddygol, diagnosteg in vitro a synwyryddion amaethyddol. Eu nodau yw datblygu gradd flaenaf y dechnoleg synwyryddion trwy ddatblygu cynhyrchion synwyryddion newydd a mwy medrus, wedi’u seilio o amgylch eu harbenigedd, ond heb fod yn gyfyngedig iddo. Nod eu cynhyrchion yw bod yn hawdd eu defnyddio, yn canolbwyntio ar y diwydiant a gyda defnyddiau yn y farchnad fawr.
Nod y prosiect hwn yw datblygu datrysiadau synwyryddion hybrid newydd ar gyfer monitro batris yn fewnol. Byddai monitro parhaus manwl gywir o amodau mewnol o fewn celloedd batri unigol (e.e. tymheredd mewnol, pwysau, sefydlogrwydd adeileddol) yn caniatáu mwyafu eu gwisg weithredol, gan ganiatáu datblygu batris clyfar y genhedlaeth nesaf sy’n ymateb i amodau newidiol, gan greu oes hwy, perfformiad uwch, gweithrediadau mwy diogel, a datrysiadau storio egni mwy cynaliadwy yn gyffredinol.
Mewn defnyddiau modurol, mae synwyryddion batri electronig yn rhan allweddol o reoli egni cerbyd: byddai synwyryddion tu fewn i’r batri yn gallu cyfrannu’n sylweddol at synhwyro methiant a gwella diogelwch a hirhoedledd batris.
Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â Zimmer and Peacock (ZP). Mae ZP yn gwmni rhyngwladol sydd wedi ymroddi i ddatblygu technolegau synwyryddion gydag arbenigedd mewn sawl maes (synwyryddion electrogemegol, biosynwyryddion, diagnosteg feddygol, synwyryddion amaethyddol), gyda storio egni fel maes marchnad pwysig dan ddatblygiad. Drwy’r arbenigedd mewn synwyryddion hybrid ac electronig wedi’u hargraffu a storio egni electrogemegol sy’n bresennol ym Mhrifysgol Abertawe (yn enwedig Canolfan Argraffu a Haenu Cymru (WCPC), y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol (CISM) a’r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Storio Ynni (CAPTURE)), bydd y prosiect yn cael budd o gefndir ymchwil cadarn.
Nodau’r Prosiect:
Gellir gwahaniaethu datblygiad datrysiadau synwyryddion hybrid ar gyfer monitro batris yn fewnol yn ddau gyfnod:
Bydd yr ymchwil yn cael ei chynnal yn bennaf yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe.
——————————————————-
Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.
Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.
A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma
Cwmni sy’n Noddi: Zimmer & Peacock AS
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.
Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.
Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/
Ariannu
Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.
Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).
Dyddiad cau: 10 Mehefin 2022
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2022
Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at: