Gwybodaeth Allweddol
Goruchwylwyr Academaidd: Yr Athro Peter Holliman, Dr Natalie Wint
Goruchwyliwr y Diwydiant: Chris Mescall
Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022
Cefndir:
Caiff coiliau dur yn aml eu galfaneiddio â haen sy’n llawn sinc fel haen aberthol i amddiffyn rhag cyrydiant. Er bod galfaneiddio yn broses effeithiol, mae sinc yn dod yn elfen gynyddol hanfodol. Mae’r haen sinc hefyd yn llesteirio ailgylchu dur yn sylweddol. O ganlyniad, bydd y prosiect hwn yn archwilio haenau arwyneb ar gyfer dur wedi’i rolio’n oer a heb ei galfaneiddio sy’n cyfuno amddiffyniad rhag cyrydiant, codi pris y deunydd ar gyfer cynhyrchion gwahanol gyda phris ychwanegol, a dyluniad ar gyfer ailgylchu. Bydd hyn yn cael ei gyflawni gan beirianneg arwyneb sy’n defnyddio dulliau hunangydosod i greu haenau dimensiynau nano rhyngwynebol sy’n gallu eu haddasu ar ôl hynny ar gyfer defnyddiau terfynol gwahanol. Bydd gwaith y prosiect felly yn cysylltu triniaethau arwyneb â phrofi deunyddiau a nodweddu arwynebau’n fanwl.
Adlewyrchir potensial masnachol y prosiect hwn gan y ffaith fod Tata Steel UK yn cynhyrchu oddeutu 500ktpa o gynhyrchion wedi’u rolio’n oer a’u tymheru drwy ei linell brosesu a thymheru barhaus ar gyfer defnyddiau sy’n amrywio o baneli corff modurol, dodrefn swyddfeydd, rheiddiaduron domestig a drymiau olew. Mae cynhyrchion sy’n cael eu rholio’n oer yn dueddol o gyrydu gan fod yr arwyneb dur yn cael cyswllt â’r atmosffer, ac er mwyn lleiafu hyn, caiff atalwyr rhwd a ffilm olew amddiffynnol eu rhoi at y dur yn ystod y broses gynhyrchu.
Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff y ffilmiau amddiffynnol hyn eu tynnu cyn prosesu pellach yn ffatri’r cwsmer i’w galluogi i ychwanegu eu triniaeth arwyneb eu hunain un ai ar gyfer iriad yn ystod gwasgiad neu ar gyfer ei baratoi cyn paentio. Gall hyn arwain at bryderon gwaredu gwastraff yn ogystal â phrosesu ychwanegol yn y gadwyn gwerth. Nod Tata Steel yw datblygu ffilmiau amddiffynnol y gellir eu defnyddio yn ystod proses y llinell brosesu a thymheru barhaus ac a all wedyn gynorthwyo prosesu pellach yn ffatri’r cwsmer.
Nodau’r Prosiect:
Nodau’r rhaglen waith hon yw:
——————————————————-
Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.
Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.
A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma
Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.
Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.
Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/
Ariannu
Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.
Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).
Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2022
Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at: