Gwybodaeth Allweddol 

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Paolo Bertoncello, Zari Tehrani a’r Athro Owen Guy

Goruchwyliwr Academaidd: Dr Martin Peacock

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mawrth/Ebrill 2022

Cefndir:

Mae diwydiant bwyd-amaeth y DU werth tua £108 biliwn i’r economi genedlaethol ac mae’n darparu dros 3.7 miliwn o swyddi. Mae’r sector bwyd-amaeth yn gyffredinol yn cynhyrchu tua £18 biliwn o enillion allforio gros ar gyfer y DU bob blwyddyn. Mae’r sector yn awyddus i ymateb i faterion polisi sy’n ymwneud â’r amgylchedd, defnydd ynni, iechyd, diogelwch bwyd, gwastraff, a llesiant, yn ogystal â dewis defnyddwyr.


Diffinnir amaethyddiaeth glyfar neu fanwl gywir fel ffordd newydd o amaethyddiaeth gynaliadwy sy’n caniatáu ffermwyr i fwyafu cynnyrch cnydau gan ddefnyddio’r lleiaf o adnoddau (dŵr, gwrtaith, hadau ac ati) a lleihau gwastraff. Mewn amaethyddiaeth, mae macrofaethynnau a microfaethynnau pridd, lefelau pH, potensial dŵr pridd, plaladdwyr a phathogenau yn baramedrau hanfodol i asesu ansawdd priddoedd. Gellir defnyddio meintioli macrofaethynnau nitrogen, ffosfforws a photasiwm mewn priddoedd ffermio amaethyddiaeth i ymateb i fesuriadau trwy optimeiddio cynnyrch gan dyfiant planhigion o ansawdd uchel, wrth helpu i leihau gorddefnydd o wrtaith nitrogen ar yr un pryd – sydd yn gyfrifol am lygredd amgylcheddol (o drwytholchi nitrogen, dadnitreiddio, ac anweddiad nitrogen sy’n cynhyrchu amonia ac ocsidau nitraidd).


Rhoddwyd gwerth o $2.19 biliwn yn fyd-eang ar y farchnad synwyryddion nwy yn 2019 a rhagwelir iddi ddangos twf anhygoel yn y ddegawd nesaf[1] (twf Cyfradd Twf Cyfansawdd Flynyddol o 6.4% o 2019 i 2024). Gellir priodoli’r galw cynyddol am synwyryddion nwy gan ddefnyddwyr terfynol (modurol, amgylcheddol, iechyd, amaethyddol) i fwy o ymwybyddiaeth ynghylch allyriadau, addewidion ar gyfer camau gweithredu sy’n amgylcheddol gyfrifol, mwy o reoliadau iechyd a diogelwch, a mwy o ddarpariaethau ar gyfer diogelwch bwyd. Mae synwyryddion galluedd nwy presennol yn seiliedig ar gynwysorau ocsidau metel ac yn defnyddio technegau argraffu o’r radd flaenaf. O ran cyfyngiadau, y rhwystr mewn technoleg synhwyro nwy bresennol yw ei detholusrwydd rhwng gwahanol nwyon. Caiff datblygiadau eu haddasu tuag at synhwyro symiau hybrin o ddadansoddion nwy gyda detholusrwydd uwch.


Mae fframweithiau organig metel yn ddeunyddiau sydd â mandyllogrwydd amrywiol ac felly sy’n gallu synhwyro gwahanol fathau o nwyon, megis CO2, CO ac NOx, yn ddetholus ac yn effeithlon.   Mae defnydd haenau clyfar sy’n seiliedig ar fframweithiau organig metel mewn dyfeisiau synwyryddion hybrid yn galluogi detholusrwydd i gael ei adeiladu o fewn y synhwyrydd hybrid. Mae ymgorffori haenau organig metel fel rhan o’r deunydd gweithredol yn hynod arloesol a gall wella gallu synhwyro’r dyfeisiau synhwyro nwy yn y pen draw.


Mae’r marchnadoedd bwyd-amaeth a synwyryddion nwy yn llwybrau newydd ar gyfer Zimmer and Peacock ac mae ZP yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd. Drwy’r prosiect EngD, byddwn yn datblygu synwyryddion hybrid platfform newydd a fydd yn ein caniatáu i fanteisio ar feysydd marchnad newydd – yn y diwydiant bwyd-amaeth a modurol.


Y diwydiant modurol yw un o’r sectorau economaidd mwyaf yn ôl refeniw, gyda thua 70.5 miliwn o geir yn cael eu cynhyrchu’n fyd-eang [1] a’r farchnad Brydeinig ei hun â throsiant o £82 biliwn yn 2018 [2]. Mae hyn yn cyflwyno cyfle ariannol gwych yr ydym yn awyddus i fanteisio arno. Gellid gweithgynhyrchu’r synwyryddion ar gyfer defnyddwyr terfynol fel Jaguar Land Rover ac Aston Martin. Gellid defnyddio ein synwyryddion yn eu ceir model safon uwch, y gwerthwyd tua 150,000 [3] ohonynt yn 2018. Mae defnydd synwyryddion modurol yn cynnwys olrhain crynodiadau nwyon megis CO2 ar gyfer monitro ansawdd aer tu mewn, ar gyfer synhwyro gollyngiadau posibl yn oerydd y systemau aerdymheru, ac ar gyfer cynnal ffresni tu mewn (sy’n cael effaith ar effröwch gyrrwr). Byddai ein synwyryddion yn cynnig galluoedd synhwyro gwell a thechnoleg platfform aml-synhwyrydd integredig, priodweddau deniadol i roi cymhelliant i gwmnïau megis Land Rover fuddsoddi yn ein synwyryddion dros eu technoleg un synhwyrydd bresennol.

Nodau’r Prosiect:

Bydd y prosiect hwn yn datblygu haenau gweithredol ar gyfer ystod o synwyryddion electrogemegol clyfar gyda’r partner diwydiant Zimmer and Peacock, y gellir eu defnyddio mewn ffermio/amaethyddiaeth a defnyddiau modurol i synhwyro dadansoddion a nwyon penodol. Bydd y system synhwyro newydd yn cyfuno technolegau synhwyro electrodau sgrin argraffedig â haen hybrid mewn aräe synhwyrydd amryfath. Bydd hefyd yn datblygu system casglu, synhwyro a throsglwyddo data yn y fan a’r lle.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: Zimmer & Peacock AS | (zimmerpeacock.com)

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 25 Chwefror 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at: M2A@swansea.ac.uk