Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylir Academaidd:  Yr Athro R JohnstonYr Athro C Pleydell-Pearce a’r Dr Mark Coleman

Goruchwyliwr Diwydiannol: Mr. Andrew Holwell

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Yn gynnar mis Mai 2022

Cefndir:

Er mwyn cyflawni targedau allyriadau carbon deuocsid a lleihau cynhesu byd-eang, mae angen deunyddiau hollol newydd sydd â’r gallu i gynnig cryfder uchel gyda phwysau cymharol isel, ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae dwysedd carbon dur sydd wedi’i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol yn galw am newid er mwyn lleihau effaith ar yr amgylchedd wrth gadw nodweddion y deunydd.  Bydd y prosiect hwn yn dilysu perfformiad a chyfwerthedd ‘duroedd carbon isel’ â duroedd wedi’u gweithgynhyrchu’n draddodiadol gan ddefnyddio technegau nodweddu uwch.

Nodau’r Prosiect:

Wrth ddyfeisio deunyddiau newydd ac er mwyn datblygu deunyddiau diwydiannol sy’n bodoli eisoes, mae’n bwysig deall y gydberthynas rhwng perfformiad graddfa facro a chyfansoddiad micro-strwythurol.

Hyd yn hyn, nid oes llenyddiaeth helaeth sy’n cysylltu perfformiad macro-strwythurol â nodweddion macrosgopig yn bennaf o ganlyniad i gymhlethdod y system arbrofol.  At y diben hwn, mae Carl Zeiss Microscopy, cwmni microsgopau mwyaf y byd, wedi datblygu system cynhesu a thensiwn in situ sy’n seiliedig ar ficrosgop electronau sganio allyriadau maes.

Yn ogystal â chromliniau pwysedd-straen, gall y system fonitro parthau niferus o ddiddordeb mewn amser real gyda chydraniad uchel a chyflawni sbectrosgopeg gwasgariad ynni awtomataidd (EDS), diffreithiant ôl wasgariad electronau (EBSD) a dadansoddiadau cydberthyniad delweddau digidol (DIC), gan lunio set ddata micro-strwythurol wedi’i seilio ar amser o’r sampl.

Yn y prosiect hwn, caiff samplau dur ac aloi eu paratoi ym Mhrifysgol Abertawe a’u nodweddu gan SEM, EDS ac EBSD. Bydd y myfyriwr yn gweithio ar y cyd â Zeiss, gan deithio i swyddfeydd ZEISS yng Nghaergrawnt, y DU, (lle mae ZEISS yn gweithgynhyrchu ei holl ficrosgopau electronau sganio), i weithio gyda thîm ymchwil deunyddiau ZEISS i ddadansoddi samplau gan ddefnyddio’r ddyfais newydd hon. Y nod yw deall y newidiadau micro-strwythurol yn y sampl ar dymereddau uchel a chyda grym gosod. Yna caiff data pwysedd-straen macrosgopig ei gyfatebu i nodweddion micro-strwythurol y deunyddiau i gysylltu perfformiad a micro-strwythur.   Ochr yn ochr â hyn, caiff pileri nano-fecanyddol o’r un deunyddiau eu paratoi yn ZEISS trwy abladu laser ffemtoeiliad cyflymder uchel.   Caiff profion cywasgu’r pileri hyn eu cymharu â’r mesuriadau SEM in situ er mwyn darparu dilysiad ar wahân o nodweddion y deunydd drwy ddull cyflenwol megis modelu elfennau cyfyngedig.

A picture containing engine

Description automatically generated

Ffigur 1: Rig gwres a thensiwn in situ Zeiss

A picture containing text, indoor

Description automatically generated

Ffigur 2: Amrywiaeth o bileri ar gyfer profion cywasgu micro-fecanyddol a lunnir gan ddefnyddio abladu laser ffemtoeiliad a sgleinio Ga FIB.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Y Cwmni sy’n Noddi’r Prosiect: Zeiss Microsgopau, Meddalwedd ac Atebion Delweddu ZEISS

Cymhwysedd   

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £12,500, y ddau ar gyfer cyfnod o un flwyddyn.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 22 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk