Gwybodaeth Allweddol
Goruchwylwyr Academaidd: Yr Athro C Pleydell-Pearce a Dr Z Abdallah
Goruchwyliwr y Diwydiant: Matthew C Davies
Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022
Mae deunyddiau gwrthsafol wedi’u dylunio i wrthsefyll gael eu dadelfennu gan wres, pwysau a chemegion, ac i gadw eu priodweddau mecanyddol ar dymheredd a geir yn yr amgylchedd gweithgynhyrchu modern. Pwrpas deunydd gwrthsafol yw cynnwys gwres wrth amddiffyn offer prosesu yr un pryd. Yn nodweddiadol, defnyddir y deunyddiau hyn fel leininau ar gyfer boeleri, ffwrneisi, llosgwyr ac ati ac mae ganddynt sawl defnydd yn y broses gwneud dur.
Caiff haearn a dur hylifol eu cludo a’u prosesu mewn llestr â haen wrthsafol, er enghraifft torpidos, lletwedi, llestri gwneud dur ocsigen sylfaenol, twndisiau ac ati. Ym mhob pwynt cludiant, mae colli tymheredd yn digwydd. Eid i’r afael â diffyg tymheredd un ai drwy broses cynhesu cemegol neu addasiadau a wneir i fewnbynnau sgrap ac aloion i reoli’r tymheredd terfynol.
Nod y prosiect hwn yw astudio systemau haenu gwrthsafol a deall eu heffaith ar golli egni, a thrwy adolygiadau llenyddol / meincnodi, nodi cyfleoedd ar gyfer lleihau y golled hon. Bydd modelu thermol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu datrysiadau ynghyd â phrofi gwrthsafol (thermofecanyddol) ac asesiadau o werth mewn defnydd. Bydd systemau mesur thermol cyswllt a digyswllt yn cael eu gwerthuso fel offeryn i gefnogi treialon a gwerthusiadau o gynigion sy’n deillio o’r ymchwil hon.
——————————————————-
Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.
Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.
A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma
Cwmni sy’n Noddi: Tata Steel UK EN-Home Page | Tata Steel in Europe tatasteeleurope.com)
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.
Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.
Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/
Ariannu
Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.
Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).
Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2022
Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at: