Gwybodaeth Allweddol 

Goruchwyliwr Academaidd: Yr Athro Nicholas Lavery – Prifysgol Abertawe

Goruchwyliwr Diwydiannol: Dr Titou Minster

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mawrth/Ebrill 2022

Cefndir a Nodau’r Prosiect:

Defnyddir powdr metel mewn defnyddiau safon uwch o bres-sodrad i weithgynhyrchu ychwanegion a haenau chwistrellu thermol i wasgiad isostatig poeth. Caiff cyfansoddiad penodol a dosbarthiad maint gronyn (PSD) eu datblygu ar gyfer pob cynnyrch bwriadedig er mwyn galluogi ymdrin a phrosesu o fewn cyfyngiadau’r broses weithgynhyrchu wrth gyflawni’r priodweddau gofynnol ar gyfer y defnydd terfynol bwriadedig.

Bydd arferion toddi yn dylanwadu ar y ffordd y gallai rhai elfennau anweddol esblygu neu ocsideiddio a ffurfio slag. Mae rheoli slag yn allweddol er mwyn cyflawni powdr unffurf glân gan y gall ei lusgo arwain at briodweddau mecanyddol gwael yn y defnydd terfynol.

Mae atomeiddio powdr yn broses lle defnyddir cyfrwng nwy neu ddŵr dan bwysau uchel i dorri llif o fetel tawdd i lawr yn bowdr mân gyda PSD sy’n dilyn dosbarthiad Gaussaidd. At hynny, o ran swyddogaeth y paramedrau prosesu hyn, bydd gan y powdr forffoleg a microadeileddau amrywiol a allai gael effaith ar ddefnyddiau i gwsmeriaid. Bydd paramedrau amrywiol, gan gynnwys atomeiddio llif canolig / math / cyflawniad, gosodiad y chwistrell, ac oeri sych ynteu oer yn cael effaith ar y PSD, morffoleg a microadeiledd.

Mae optimeiddio’r broses er mwyn cyflawni cynnyrch uchel yn gyson yn allweddol ar gyfer y busnes fel ein bod yn gallu cynnig cynnyrch o ansawdd uchel sydd â phris cystadleuol. Mae lleihau colledion deunyddiol yn iawn y tro cyntaf yn allweddol i leihau gwastraff a threuliad ynni drwy’r uned.

Nodau’r Prosiect:

Nodau’r prosiect yw optimeiddio arferion toddi ac atomeiddio ar gyfer gwell glendid, gwell cynnyrch, llai o amrywiaeth i brosesau, a mwy o ganlyniadau iawn tro cyntaf yn yr uned. Gwella dealltwriaeth o’r broses ac ennill mwy o ddealltwriaeth am sut mae rheoli’r broses yn cael effaith ar ddefnydd terfynol. Bydd gwaith agos gyda’r tîm technegol a phroses presennol yn sicrhau y bydd y profiad yn rhoi profiad diwydiannol buddiol i’r ymgeisydd gyda swm iach o waith yn y labordy yn y prifysgolion partner. Bydd y myfyriwr yn gweithio rhwng y safle gweithgynhyrchu yn Rhydaman, Prifysgol Abertawe, ac mae potensial ar gyfer cydweithrediad â Phrifysgol Leeds.


——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: LSN Diffusion

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £12,500, y ddau ar gyfer cyfnod o un flwyddyn.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 25 Chwefror 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk