Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Chedly Tizaoui a Dr Paul Williams  

Goruchwyliwr y Diwydiant: Dr Michael Gerardo

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Dŵr Cymru Welsh Water yw’r ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth statudol sy’n cyflenwi ar gyfer dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai rhannau cyfagos yn Lloegr. Glas Cymru sy’n berchen arnom, cwmni un diben, nid-er-rhanddeiliaid. Rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid drwy gyflenwi eu dŵr yfed ac yna cymryd eu dŵr gwastraff i ffwrdd a delio ag ef mewn modd cynaliadwy sy’n amddiffyn ein hamgylchedd.

Mae presenoldeb sawl cemegyn mewn dŵr yn peri bygythiad difrifol i’r amgylchedd dyfrol o ganlyniad i’w heffeithiau gwenwynig. Felly dylid gwerthuso ac optimeiddio’r broses o dynnu’r cyfansoddion hyn o ddŵr gwastraff i sicrhau amgylchedd cynaliadwy ac amddiffyn iechyd dynol. Er bod unedau trin dŵr gwastraff wedi bod yn elfen hanfodol wrth amddiffyn yr amgylchedd, mae’r defnydd cynyddol o gemegion newydd a’u cyflwyniad yn y gymdeithas yn golygu bod unedau trin dŵr gwastraff confensiynol yn dechrau methu tynnu’r cemegion hyn. Fel rhan o Raglen Ymchwilio i Gemegion 3 (CIP3) yn y DU, mae tri chemegyn wedi cael eu nodi’n benodol fel rhai sydd angen eu monitro o ganlyniad i’w risg amgylcheddol. Y cemegion hyn yw fflworanthen, TBT – tribiwtyltin, a DEHP – deu(2-ethylhecsyl)ffthalad (FTD). Er bod y tri chemegyn hyn yn cael eu monitro ar hyn o bryd o dan CIP3, mae’n bosibl y gellir gorfodi Safonau Ansawdd Amgylcheddol arnynt yn y dyfodol. Felly, mae gwerthuso technolegau trin a allai alluogi tynnu FTD mewn modd cost-effeithiol yn eithriadol bwysig.

Ffocws y Prosiect Ymchwil:

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar brosesau ocsideiddio uwch sy’n seiliedig ar osôn a charbon actifedig gronynnog i dynnu FTD. Nodau’r prosiect yw:

Lleoliad

Bydd yr holl waith yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, bydd y prosiect hwn yn cynnwys rhai ymweliadau safle ag unedau trin dŵr gwastraff i ddeall sut mae triniaeth dŵr gwastraff gonfensiynol yn cael ei gweithredu. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys casglu samplau o ddwy uned trin dŵr gwastraff ac ymweliadau posibl â labordai Dŵr Cymru.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: Dŵr Cymru

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £12,500, y ddau ar gyfer cyfnod o un flwyddyn.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk