Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Yr Athro Trystan Watson (1af) a Dr Eifion Jewell (2il).

Goruchwyliwr Diwydiant: Dr Trevor McArdle

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Mae Power Roll Ltd yn gwmni datblygu technoleg yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.  Mae wrthi’n datblygu technoleg ffotofoltäig (PV) haenen denau ar sail swbstrad patrymog 3 dimensiwn sy’n addas ar gyfer gweithgynhyrchu rholyn i rolyn mewnbwn uchel.  Fel rhan o’i ddatblygiad uwchraddio, mae’n awyddus i ddatblygu proses gosod rholyn i rolyn ar gyfer Perofsgît yn ei bensaernïaeth wedi’i phatentu.  Dangoswyd bod technoleg PRL ar lefel effeithiolrwydd +10% gan ddefnyddio Perofsgît â chaen techneg droelli yn ei blatfform modiwl bach hyblyg, ond mae bellach yn y broses o raddio ei holl baramedrau prosesu i rolyn i rolyn.

Lleolir y prosiect yn SPECIFIC fel rhan o grŵp ymchwil yr Athro Trystan Watson.  Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth Genedlaethol yw SPECIFIC, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sy’n gweithio ar y cyd â Phrifysgolion ar draws y DU. Mae gan SPECIFIC allu ac arbenigedd sylweddol ar draws ei dîm a’i gyfleusterau. Mae galluoedd  SPECIFIC yn perthyn i argraffu, caenu a phrofi hyd oes ar gyfer deunyddiau, a datblygu technolegau galluogi sy’n cefnogi’r broses o drawsnewid o fainc y labordy i lawr y ffatri.

Ar hyn o bryd ymgymerir â gweithgarwch ymchwil sefydlogrwydd ac uwchraddio PV SPECIFIC yng nghyfleuster newydd Prifysgol Abertawe sef Campws y Bae, mewn cyfleusterau a adeiladwyd at y diben sy’n cynnwys cyfleuster profi sefydlogrwydd ac argraffu ystafell lân newydd. 

Nodau’r Prosiect:

Bydd y prosiect hwn wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe yn bennaf, ond bydd achlysuron pan fydd rhaid treulio cyfnodau byr o amser yn y cwmni noddi.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Y Cwmni sy’n noddi’r prosiect: Power Roll Ltd.

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk