Gwybodaeth Allweddol   

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Christian Griffiths (i’w gadarnhau) a Dr Zak Abdallah

Goruchwyliwr y Diwydiant: James Neucker

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

O fewn proses rholio’n oer a llinellau tymheru’r broses gwneud dur, defnyddir rholeri gwaith ar gyfer cyflawni lleihad mewn trwch y dur, priodweddau mecanyddol a gweadeddau arwyneb i fodloni gofynion cwsmeriaid. Er mwyn cynnal yr amod deunydd a ddymunir, mae angen ailbrosesu ar y rholiau gwaith yn dilyn ymgyrchoedd rholio. Caiff rholiau gwaith eu hailbrosesu ar hyn o bryd drwy lifanu a gellir eu gweadu wedyn â dadlwythiad trydanol, gyda’r rhan fwyaf ond nid pob un â haen gromiwm, gan wella caledwch a chynyddu hyd yr ymgyrchoedd rholio a sefydlogrwydd y broses.

Gallai deddfwriaeth amgylcheddol newydd arwain at roi’r gorau i’r broses haenu â chromiwm mewn blynyddoedd i ddod, ac felly mae’r gwaith chwilio am dechnolegau addas ar gyfer cadw ansawdd arwyneb rholiau gwaith wedi dechrau.

Nod y prosiect hwn fydd:

Bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn gymwys ledled sawl maes o ddiwydiant dur y DU trwy gynnig gwell dealltwriaeth o’r opsiynau sydd ar gael, neu ddatrysiad o bosibl.

Mae hwn yn ymrwymiad ymchwil allweddol ar gyfer Tata Steel UK, ac mae corff sylweddol o waith cydweithredol eisoes yn mynd rhagddo, gan gynnwys prosiect EngD cyfredol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â’r tîm sy’n gweithio tuag at ddatrysiad i’r broblem hon.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd dreulio amser yn safle Port Talbot Tata Steel UK a labordai’r brifysgol.

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk