[elementor-template id=”4562″]
Facebook
Twitter
Instagram
Linkedin
CROESO I COATED M2A
Cychwynnodd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn 2015 gyda’r nod o greu arweinwyr diwydiant Cymru’r dyfodol drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan ddiwydiant. Mae M2A yn adeiladu ar 25 mlynedd o brofiad o ddarparu Doethuriaethau Peirianneg a dyma oedd un o’r canolfannau arloesol ar gyfer darparu cymwysterau Doethuriaethau Peirianneg. Mae M2A wedi mwyafu ar swm y cyllid sydd ar gael trwy ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i fanteisio i’r eithaf ar arian UKRI, gan gynnwys dwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Haenau Swyddogaethol yn y gweithrediad.
Edrychwch ar ein cyfleusterau, sydd o’r radd flaenaf a gwerth £450 miliwn, yng Nghampws y Bae Abertawe yma
Mae COATED M2A yn troi myfyrwyr yn Beirianwyr Ymchwil sy’n meddu ar sgiliau uwch i ddatrys problemau diwydiannol a datblygu ffiniau academaidd y ddisgyblaeth.
Er mwyn cefnogi’n myfyrwyr, caiff yr holl Beirianwyr Ymchwil eu goruchwylio gan academyddion a diwydianwyr yn ogystal â derbyn mentora gan gydweithwyr i’w tywys drwy eu gwaith ymchwil a gyrfa ddilynol.
Bydd holl ffioedd dysgu Peirianwyr Ymchwil yn cael eu talu a byddant yn derbyn cyflog hael i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw’r cyflog hwn yn gymwys am ddidyniadau (treth, yswiriant gwladol, benthyciad myfyrwyr ac ati).
- EngD: £20,000 y flwyddyn (cyfwerth â chyflog o ~£28,000)
- MSc: £12,500 y flwyddyn (cyfwerth â chyflog o ~£15,000)
Fel dangosydd, cyflog y peiriannydd ôl-raddedig arferol yw ~£26,000, ac mae’n gyffredin i’n graddedigion ddatblygu’n gyflym yn eu gyrfa o ganlyniad i’r sgiliau maent wedi’u hennill wrth gwblhau eu cymhwyster uwch.
Yn ogystal â’r cymorth ariannol hael, mae yna lawer o gyfleoedd i rwydweithio ac arddangos gwaith mewn digwyddiadau masnach a chynadleddau rhyngwladol ym mhedwar ban byd.
https://youtu.be/of59Hzii3-A[elementor-template id=”1932″]