HINDREULIO O GWMPAS Y BYD: DARGANFOD CYFLEOEDD MEWN MARCHNADOEDD NEWYDD AR GYFER HAENAU ORGANIG CYNALIADWY

Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Matthew Davies (1af). Dr Matt Carnie (2il).

Goruchwylwyr y Diwydiant: Dr Peter Barker, Neil Metherell

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Tata Steel UK yw un o’r cynhyrchwyr mwyaf o ddur cyn ei baentio yn Ewrop ac mae’n cynhyrchu cynhyrchion o’r radd flaenaf sy’n cael eu rhestru ledled Ewrop, yn bennaf ar gyfer defnydd yn y diwydiant adeiladu. Er mwyn cadw’r safle hwn, mae’r sefydliad yn ceisio gwella’r ystod cynnyrch bresennol yn gyson ac yn edrych am gyfleoedd newydd yn y farchnad i gefnogi twf gwerthiannau. Mae’r cyfleoedd hyn am dwf gwerthiannau mewn marchnadoedd newydd ledled y byd yn bodoli’r tu allan i’n prif farchnadoedd; o ganlyniad, mae angen ymchwil i ymchwilio i berfformiad polymer ac amodau hinsoddol yn y marchnadoedd newydd hyn i bennu argymhellion ar gyfer hirhoedledd cynnyrch yn y marchnadoedd hyn. Drwy’r ymchwil hon, gellir rhoi argymhellion i’r busnes ynghylch hyfywedd o ran pa gynhyrchion y gellir eu defnyddio, dewis lliw, cyfleoedd, a gwarantiadau cynnyrch cysylltiedig ar gyfer marchnadoedd newydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer myfyriwr ymchwil ymroddedig i weithio’n agos gyda’r busnes, gan ymchwilio i gyfleoedd am gynhyrchion cynaliadwy newydd, marchnadoedd newydd, a chwsmeriaid newydd ledled y byd.

Nodau’r Prosiect:

  • Edrych ar farchnadoedd newydd drwy’r byd ac ymchwilio i amodau hinsoddol nodweddiadol ar y cyd â’r busnes. O hyn, sefydlu perfformiad y dur cyn ei orffen ar gyfer defnyddiau amrywiol ym maes adeiladu
  • Gweithio gyda chynhyrchion presennol a chynhyrchion newydd yn y dyfodol, gan ddarparu argymhellion ar gyfer y busnes ynghylch addasrwydd cynhyrchion fesul marchnad
  • Astudio deunyddiau sydd wedi’u diraddio drwy ddulliau profi allanol ac wedi’u cyflymu
  • Defnyddio technegau dadansoddol megis spectrosgopi UV, ATR FTIR a Raman i egluro mecanwaith a chyfraddau diraddio ac erydu haenau organig yn well
  • Deall sut mae gwahanol amodau hinsoddol yn cael effaith ar nodweddion yr haenau, gan ddefnyddio proffil dyfnder a dadansoddiad arwyneb
  • Datblygu technegau nad ydynt yn ddinistriol ymhellach i werthuso perfformiad samplau ag ôl tywydd, megis lliw, gloywder, ffurfiad chwysigen, a mesuriadau anffurfiad
  • Darparu canllawiau ynghylch perfformiad mewn defnydd ar gyfer cynhyrchion dur amrywiol cyn eu paentio sy’n gysylltiedig â’r marchnadoedd newydd

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi:  TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk