Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Ian Mabbett (1af). Dr Natalie Wint (2il).

Goruchwylwyr y Diwydiant: Dr Peter Barker, Neil Metherell

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Tata Steel UK yw un o’r cynhyrchwyr mwyaf o ddur cyn ei baentio yn Ewrop ac mae’n cynhyrchu cynhyrchion o’r radd flaenaf sy’n cael eu rhestru ledled Ewrop, yn bennaf ar gyfer defnydd yn y diwydiant adeiladu. Er mwyn cadw’r safle hwn, mae’r sefydliad yn ceisio gwella’r ystod cynnyrch bresennol yn gyson, un ai drwy ddatblygu haenau o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant adeiladu, cynigion gwell mewn gwasanaeth, neu drwy ymarferoldeb ychwanegol. Gall cynhyrchion premiwm â haenau Tata gynnig warantïau heb waith cynnal a chadw am hyd at 40 mlynedd ac mae’r dechnoleg hon yn seiliedig ar ddegawdau o brofiad yn llunio paentiau a gyrchwyd o danwyddau ffosil fel eu porthiant.

Gyda ffocws cynyddol barhaus ar gymwysterau cynaliadwyedd a’r economi gylchol, mae gan Tata Steel UK strategaeth glir i leihau carbon. Mae rhan o’r strategaeth hon yn gofyn am gefnogi’r un cynhyrchion perfformiad amlwg yn y farchnad ond heb ddefnyddio toddyddion, a fydd yn helpu i leihau ôl troed carbon cyffredinol Tata Steel.

Mae’r safle gweithgynhyrchu yn cynhyrchu mwy na 300,000 tunnell o gynnyrch dur cyn ei orffen bob blwyddyn gan ddefnyddio sawl system polymer wahanol.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn gyfle unigryw a chyffrous ar gyfer myfyriwr ymchwil ymroddedig i helpu i lywio dyfodol cynaliadwyedd y busnes yn y DU a hynny drwy newid y polymerau yn sylfaenol i gynhyrchu cynhyrchion cynaliadwy a pherfformiad uchel i’w cyflenwi i gwsmeriaid.

Nodau’r Prosiect:

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk