Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Ian Mabbett (1af). Dr Eifion Jewell (2il).

Goruchwylwyr y Diwydiant: Dr Peter Barker, Neil Metherell

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Tata Steel UK yw un o’r cynhyrchwyr mwyaf o ddur cyn ei baentio yn Ewrop ac mae’n cynhyrchu cynhyrchion o’r radd flaenaf sy’n cael eu rhestru ledled Ewrop, yn bennaf ar gyfer defnydd yn y diwydiant adeiladu. Er mwyn cadw’r safle hwn, mae’r sefydliad yn ceisio gwella’r ystod cynnyrch bresennol yn gyson, un ai drwy ddatblygu haenau o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant adeiladu, cynigion gwell mewn gwasanaeth, neu drwy ymarferoldeb ychwanegol. Gall cynhyrchion premiwm â haenau Tata gynnig warantïau heb waith cynnal a chadw am hyd at 40 mlynedd ac mae’r dechnoleg hon yn seiliedig ar ddegawdau o brofiad yn llunio paentiau a gyrchwyd o danwyddau ffosil fel eu porthiant.

Gyda ffocws cynyddol barhaus ar gymwysterau cynaliadwyedd a’r economi gylchol, mae gan Tata Steel UK strategaeth glir i leihau carbon. Mae rhan o’r strategaeth hon yn gofyn am gymorth technolegau caledu amgen yn lle’r ffyrnau tân nwy presennol, a fydd yn lleihau carbon ymgorfforedig cyffredinol y cynhyrchion dur cyn eu gorffen. Rhagwelir fel rhan o’r ymchwil hon y bydd galluedd llinell beilot addas yn cael ei ddatblygu i brofi’r dechnoleg galedu a ddewisir cyn uwchraddio i alluedd gweithgynhyrchu llawn. Gallai technolegau caledu amgen o’r fath gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dechnolegau uwchfioled (UV), pelydr electron (EB), caledu anwythol, ac isgoch (IR).

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn gyfle unigryw a chyffrous ar gyfer myfyriwr ymchwil addas i helpu i lywio dyfodol cynaliadwyedd y busnes yn y DU, drwy newid y dull o weithgynhyrchu yn sylfaenol.

Nodau’r Prosiect:

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk