Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Yr Athro David Penney, Dr Amit Das

Goruchwyliwr y Diwydiant: James Lelliott

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Tata Steel UK yw prif weithgynhyrchydd y DU o ddur llen modurol â haen fetelig. Un o’r materion diweddaraf sy’n codi mewn dylunio a pheirianneg fodurol yw addasu duroedd cyfnod deuol ar gryfder o 1200MPa ac uwch o fewn dyluniadau cerbydau newydd. Mae graddau dur cyfnod deuol yn rhoi cryfder cynnyrch uchel iawn heb fod â chyfaddawd mawr o ran hyblygrwydd. Caiff y duroedd hyn eu haddasu i ganiatáu ysgafnhau cerbydau a chynyddu eu perfformiad diogelwch; fodd bynnag, mae cyfansoddiad y duroedd hyn hefyd yn achosi breuad metel hylifol pan gaiff eu weldio i dduroedd â haenau metelig o haearn sinc a magnesiwm sinc ar gyfer rhannau megis paneli allanol ochr y corff mewn fframau modurol. Mae hyn yn ysgogi cwmnïau modurol i fabwysiadu haenau sinc drud wedi’u tymheru ar gyfer cydrannau sydd wedi’u cysylltu â’r duroedd cryfder uchel iawn yn hytrach na defnyddio mwy o haenau haearn sinc a magnesiwm sinc a gynhyrchir yn y DU.

Nodau’r Prosiect: 

Nodau’r rhaglen waith hon yw:

  1. Nodi achosion gwreiddiol breuad metel hylifol sy’n gysylltiedig â duroedd â haen haearn sinc a magnesiwm sinc
  2. Nodi pam fod duroedd â haen sinc yn llai tueddol o gael breuad metel hylifol
  3. Treialu a datblygu datrysiadau i ganiatáu duroedd â haen haearn sinc a/neu fagnesiwm sinc i gael eu defnyddio mewn ffordd gosteffeithiol a chadarn pan gânt eu weldio i dduroedd cryfder uchel iawn megis DP1200 (mae’n rhaid i hyn alinio ag amodau nodweddiadol gweithgynhyrchu cerbydau, h.y. cyflymder weldio, math o weld ac ati)

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk