Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd:  Yr Athro Cameron Pleydell-Pearce, Dr Hollie Cockings

Goruchwyliwr y Diwydiant: Martyn Dranfield

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Mae strategaethau datgarboneiddio yn cael eu cyflwyno gan gynhyrchwyr dur mwyaf y byd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn cefnogi symud i ffwrdd o dechnolegau gwneud dur a rholio traddodiadol i fabwysiadu prosesau sy’n allyrru llai o garbon. Un cynnig yw mabwysiadu cyfluniad melin fach ffwrnais arc trydan ar gyfer cynhyrchu dur fflat. Cychwynnodd y ffatri gyntaf gynhyrchu yn 1989 ac mae wedi tyfu i fwy na 60 o ffatrïoedd cyfeirnod yn fyd-eang. Mae’r ffatrïoedd hyn yn cyplu technoleg ffwrnais arc trydan â chastio slabiau tenau, er mwyn mwyafu cyfraddau ailgylchu a lleiafu defnydd ynni o gymharu â gosodiadau ffatri integredig traddodiadol.

Mae’r newid i gastio slabiau tenau (<90 mm o drwch yn nodweddiadol) o gastio slabiau trwchus tradddodiadol (200-300 mm) yn lleihau’r gymhareb leihau i drwch y cynnyrch terfynol, ac yn cael gwared ar y cyfnod oeri, wedi’i ddilyn gan y cyfnod ailgynhesu, a welir mewn ffatrïoedd integredig. Mae hyn yn ffurfio adeileddau graen ‘adeg bwrw’ nad ydynt yn ailgrisialu’n llawn ar ôl rholio, gan gynhyrchu adeileddau graen heterogenaidd yn y cynnyrch terfynol; mae’r rhain yn niweidiol i briodweddau mecanyddol, gan gynnwys gwerthoedd gwydnwch.

Nodau’r Prosiect:

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: TATA Steel UK https://www.tatasteeleurope.com/

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Bydd y prosiect hwn yn addas i fyfyriwr â chefndir mewn peirianneg, gwyddor ddeunyddol neu’r gwyddorau ffisegol ac sy’n addas i archwilio effaith strategaethau datgarboneiddio ar feteleg ddur.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk