Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr S Sharma a’r Athro K Lewis

Goruchwyliwr y Diwydiant: Yr Athro C Hopkins, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Mae pobl yn datblygu methiant resbiradol am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys clefyd yr ysgyfaint difrifol a chronig, problemau â mur y frest neu asgwrn y cefn, clefyd niwrogyhyrol, gordewdra difrifol, meddyginiaethau tawelyddu, neu’n aml cyfuniad o’r uchod.

Y ffordd bwysicaf o roi diagnosis ac o fonitro methiant resbiradol yw mesur lefelau ocsigen (isel) yn y gwaed a charbon deuocsid (uchel) yn y gwaed. Gallwn fesur ocsigen drwy synwyryddion anfewnwthiol sy’n mesur golau isgoch plygedig ar chwiliedyddion blaen bys. Fodd bynnag, ni all y dull hwn fesur lefelau carbon deuocsid neu asidedd (pH) yn y gwaed yn ddibynadwy. Nid yw samplau gwaed gwythiennol hefyd yn fanwl gywir i fesur carbon deuocsid. Felly, mae’n rhaid i glinigwyr samplu gwaed rhedwelïol (neu gapilarïaidd weithiau) ac mae hyn yn golygu gosod nodwyddau mewn rhydwelïau, sy’n boenus, weithiau’n dechnegol anodd (methu’r targed), yn cymryd amser, ac yn beryglus o bryd i’w gilydd (gan gynnwys gwaedu, difrod i nerfau). Mae yna oedi byr hefyd wrth i’r samplau gwaed gael eu cymryd i beiriannau mesur a gall gwallau technegol ddigwydd yn ystod gwaith samplu a chludo gyda swigod ocsigen wedi’u dal, er enghraifft, neu ocsigen yn cael ei dreulio gan gelloedd coch y gwaed.

Byddai’r gallu i fesur dirprwy ar gyfer carbon deuocsid a pH rhedwelïol yn rhoi buddion clinigol cyflym a dwys. Hyd yn hyn, nid oes neb wedi datblygu mesuriadau trwy’r croen sy’n fanwl gywir neu’n ddigon dibynadwy i lywio gofal clinigol. Mae hylif gwagleol y croen yn drysorfa o biofarcwyr ac yn gweithredu fel ffenestr i mewn i’r corff. Gellir ei weld gyda chyn lleied o fewnwthiad gan ddefnyddio araeau micronodwydd. Gellir addasu’r araeau micronodwydd hyn â haenau metelig a haenau ymarferol i greu dyfeisiau synhwyro electrogemegol amryfath.

Nodau’r Prosiect: Nod y prosiect hwn fydd:

  1. Adolygu llenyddiaeth ac arferion presennol o fewn y synwyryddion monitro parhaus i ddeall cyflwr presennol gwybodaeth am haenau metel ymarferol, haenau polymerig ar gyfer biodderbynyddion a synwyryddion trawsdermol
  2. Gwella’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’r gofynion ar glytiau araeau micronodwydd ar gyfer defnyddiau monitro, samplu a diagnostig parhaus
  3. Cwblhau gwaith treialu mewn labordy sy’n cynnwys optimeiddio in vitro mewn rhith feinweoedd wedi’i ddilyn gan astudiaethau peilot mewn lleoliadau clinigol

Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil EngD amlddisgyblaethol hon yn cael ei goruchwylio ar y cyd rhwng Dr Sanjiv Sharma, yr Athro Keir Lewis a’r Athro Chris Hopkins. Fel rhan o’r ysgoloriaeth ymchwil hon, bydd yr ymgeisydd yn cael ei gefnogi i ennill sgiliau peirianneg ar wneuthuriad dyfais a phrofiad ymchwil drawsfudol drwy weithio ar y cyd mewn lleoliadau clinigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r GIG lleol a bydd ganddo fynediad digyffelyb at arbenigedd a chyfleusterau’r Sefydliad TriTech newydd ei sefydlu yn Llanelli.                

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi: Sefydliad TriTech

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk