Am feini prawf myfyrwyr EPSRC llawn, edrychwch yma.
Rydym yn cydnabod bod canllawiau EPSRC yn nodi y gall hyd at 30% o fyfyrwyr newydd mewn carfan gael eu dosbarthu fel rhai ‘rhyngwladol’; fodd bynnag, nid oes modd defnyddio’r hyblygrwydd hwn oherwydd bod yn rhaid i’n hymgeiswyr Doethuriaeth mewn Peirianneg hefyd fodloni’r meini prawf WEFO a amlinellir uchod. Am ragor o wybodaeth am ddosbarthiad ‘rhyngwladol’, dylech edrych yma.
Yn ogystal, fel arfer byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob adran) wrth gyflwyno cais.
Nid yw graddedigion gradd Meistr yn gymwys i gyflwyno cais am radd Meistr bellach ac nid yw graddedigion Doethuriaeth mewn Athroniaeth (PhD) yn gymwys i gyflwyno cais am radd Meistr na Doethuriaeth mewn Peirianneg.
Gwladolion yr UE
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, yn amodol ar ddeddfwriaeth, y bydd yn darparu cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir sy’n elwa ar hawliau dinasyddion o dan y cytundebau ymadael amrywiol – dylech edrych yma. Os yw hyn yn berthnasol i chi, yna efallai y byddwch yn gymwys.
Os ydych yn ansicr a ydych yn bodloni’r gofynion cymhwysedd, cysylltwch â ni.
Noder, nid yw ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gyflwyno cais am Fenthyciad Doethurol Ôl-raddedig.