"Mae cael cefnogaeth diwydiant wrth ymgymryd â’r EngD wedi fy helpu i ddatblygu cysylltiadau hirhoedlog â’r cwmni sydd yn fy noddi, sef cynhyrchydd dur sydd un o’r deg mwyaf yn y byd"

- Dan, Peiriannydd Ymchwil

MYFYRWYR

EIN NOD YW EICH TROI'N UNIGOLYN CYFLAWN, HYNOD GYFLOGADWY A FYDD YN BAROD AR GYFER EICH GYRFA – I BA GYFEIRIAD BYNNAG Y BYDD HYNNY.

Cynhadledd Flynyddol

Bob blwyddyn, mae M2A yn cynnal cynhadledd flynyddol lle mae gan yr holl beirianwyr ymchwil y cyfle i gyflwyno’u gwaith i gynulleidfa gymysg o academyddion a diwydianwyr yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae. Mae presenoldeb da yn y digwyddiad hwn, ac mae cinio’r gynhadledd yn rhoi cyfle gwych ar gyfer rhwydweithio ac ehangu eich cysylltiadau.

Nod yr EngD yw creu graddedigion sydd yn barod i wneud effaith ar yr holl lefelau parodrwydd technoleg drwy ddefnyddio eu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer eu problemau ymchwil. Er mwyn annog arloesedd, rhannu arfer gorau a datblygu gwaith tîm carfannau, mae’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol wedi datblygu her haenau croes-garfan flynyddol. Bydd yr her yn dod â charfannau ym Mlwyddyn 2 a 3 ynghyd am bythefnos i ddylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch m2 â haen swyddogaethol, ynghyd â chynllun busnes a strategaeth farchnata, y byddant yn ei gyflwyno i banel o arbenigwyr y diwydiant. Nod yr her yw i dîm o Beirianwyr Ymchwil weithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio eu gwybodaeth wrth ddatblygu haen i ddatrys problem bywyd go iawn. Nid yn unig y mae’r her yn defnyddio rhagoriaeth academaidd yr ymchwilydd, ond mae hefyd yn rhoi profiad o ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddatrys problem o fewn amserlen fer a rhoi ystyriaeth i’r gofynion busnes – rhywbeth y byddant hefyd yn ei wynebu yn eu gyrfaoedd.

Cyflogadwyedd

Ar hyn o bryd, mae 97% o’n graddedigion mewn cyflogaeth!

Yn y pen draw, eich cymhwyster ôl-raddedig yw carreg sarn i gael swydd. Yn ogystal â’ch cymhwyster, byddwch wedi ennill sgiliau ymchwil a phroffesiynol niferus y mae modd eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’ch gyrfa broffesiynol ac a fydd yn tynnu sylw atoch mewn cyfweliad. Mae sgiliau o’r fath yn cynnwys – dadansoddi, arbenigedd pwnc, cyflwyno, siarad cyhoeddus, y gallu i gyflwyno i uwch-reolwyr a staff llawr y siop fel ei gilydd, llunio adroddiadau, a llawer mwy.

Mae llawer o raddedigion yn dewis derbyn swydd gyda’u noddwr. Mae eich prosiect yn ffurfio cyfweliad estynedig yn y bôn ar eich cyfer chi a’ch noddwr. Mae’n rhoi’r cyfle i chi werthu eich hun i’ch noddwr ac i’ch noddwr werthu ei hun i chi – wedi’r cyfan, rydych bellach yn hynod gyflogadwy.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn ymgymryd â rolau gwahanol niferus yn y maes diwydiant ac academaidd yn ogystal ag archwilio cyfleoedd mewn sectorau eraill. Mae swyddi cychwynnol yn cynnwys peirianwyr proses ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol, hyd at ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Wrth i amser fynd heibio, rydym yn gweld ein cyn-fyfyrwyr yn ymgymryd â rolau uwch fel rheolwyr technegol, cyfarwyddwyr, darlithwyr ac athrawon cadeiriol, ac mae rhai hyd yn oed yn symud i ddisgyblaethau eraill fel meddygaeth.

Dyma rai proffiliau ein cyn-fyfyrwyr:

Dull Carfan

Mae M2A yn ffordd wych o gyflawni hyfforddiant academaidd parhaus wrth weithio gyda noddwr o’r diwydiant, ond mae agwedd gymdeithasol wych i’r rhaglen M2A hefyd.  Unwaith  y byddwch wedi cael eich derbyn ar y cynllun, byddwch  yn ymuno â ni fel rhan o garfan fel na fyddwch  byth ar eich pen eich hunan.  Byddwch yn rhan o gymuned groesawgar ac yn cael digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau newydd, p’un a ydych  yn astudio modiwlau ôl-raddedig gyda’ch gilydd, neu’n gweithio gyda’ch gilydd yn y labordai yn ystod eich gwaith ymchwil.  Byddwch yn ymuno â charfan o 120 o unigolion o’r un anian, gan ddarparu cymorth i’ch gilydd a rhannu arfer gorau drwy eich taith ymchwil. Fel rhan o’r garfan fwy, bydd gennych nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac academaidd yn ogystal â chyfleoedd i ymuno mewn digwyddiadau allgymorth i helpu i annog mwy o unigolion i fod yn rhan o’r ddisgyblaeth.

Taith o Safle Diwydiannol

Bob blwyddyn, mae’r ymchwilwyr blwyddyn gyntaf yn mynd ar daith safle diwydiannol o amgylch rhai o safleoedd gweithgynhyrchu arweiniol y DU .  Mae’r daith yn rhoi cyfle i ennill dealltwriaeth o sut mae gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn cael ei gwblhau ac ennill dealltwriaeth o sut y gall eich ymchwil gael ei defnyddio yn y sector.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymweld â safleoedd fel Jaguar Land Rover, JCB, Airbus, Mini, Fusion Energy, Lotus, Morgan a Tata Steel.

Digwyddiadau Cymdeithasol

Mae yna Bwyllgor Cymdeithasol sy’n cwrdd yn rheolaidd i gynllunio gweithgareddau llawn hwyl, gan roi digon o gyfleoedd i chi ymlacio y tu allan i’r swyddfa.  Mae  hyd yn oed Diwrnod Mabolgampau blynyddol i fanteisio ar ein lleoliad glan môr am ddiwrnod llawn hwyl yn yr haul! Mae gweithgareddau eraill wedi cynnwys nosweithiau cwis, gwibgertio, a phadlfyrddio ar eich traed.

Allgymorth

Mae yna ddigon o gyfleoedd drwy’r flwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth, gan ymgysylltu â’r cyhoedd i ledaenu’r neges am bynciau STEM. Mae hyn yn amrywio o ymweliadau lleol ag ysgolion i gynnal pebyll â thema gwyddoniaeth mewn gwyliau. Mae yna hyd yn oed Bwyllgor Allgymorth i ganfod syniadau newydd am sut i ymgysylltu ag eraill am y gwaith diddorol sy’n cael ei wneud, a sut i sbarduno diddordeb y cyhoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr y dyfodol!

CWRDD Â RHAI O’N GORUCHWYLWYR ACADEMAIDD

CAIFF ABERTAWE EI CHYDNABOD FEL UN O BRIFYSGOLION ARWEINIOL Y DU AR GYFER PEIRIANNEG.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn graddio Peirianneg yn Abertawe fel degfed yn y DU am y sgôr gyfunol yn ansawdd ymchwil ar draws disgyblaethau Peirianneg.

Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos bod 94% o'r gwaith ymchwil a gynhyrchir gan ein staff academaidd o safon sy’n Arwain y Byd (4*) neu o safon Rhagorol yn Rhyngwladol (3*).
Mae'r EngD yn gyfwerth â PhD yn nhermau ei her ddeallusol, ond fel Peiriannydd Ymchwil (myfyriwr EngD), bydd eich ymchwil yn cael ei harwain gan y diwydiant a bydd eich prosiect yn cynnwys gweithio gyda chwmni. Mae'r rhaglen yn cynnwys adran a addysgir, sy'n ymwneud â hyfforddiant technegol a rhyngbersonol ac ym maes rheoli. Mae'r sgiliau uwch hyn yn cyd-fynd â manyleb Cyngor Peirianneg y DU a byddant yn helpu'ch taith i siarteriaeth a chydnabyddiaeth broffesiynol.

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.