YMCHWIL

DAVID RICHARDS

Ymunodd David Richards â Phrifysgol Abertawe yn 2010 i astudio ar gyfer gradd sylfaen mewn Peirianneg Gyffredinol ac aeth ymlaen i gwblhau gradd lwyddiannus mewn Peirianneg Gemegol, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 2015. Ac efe bellach yn astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Peirianneg, gan gynnal ymchwil ar “Defnyddio Celloedd Solar Perofscit ar is-haen dur hyblyg”, mae Dave yn rhannu ei ysgogiadau a’i brofiadau o astudiaeth bellach.

CATHERINE FRIAR – DADGODIO DIRADDIO

Mae dur sydd â haen organig (wedi’i baentio) yn cael ei ddatgelu i lawer o amodau yn ystod ei gyfnod o wasanaeth o’r amodau tywydd garw amrywiol ym mhedwar ban byd, datguddiad UV a llygredd. Gyda rhai cynhyrchion dur â haen arnynt bellach yn dod â gwarant 40 mlynedd, mae’n hanfodol deall sut bydd y cynhyrchion hyn yn perfformio. Mae Catherine yn trafod yr heriau o ddefnyddio’n technegau profi uwch i ddeall perfformiad yr haenau hyn ar ôl profion datguddio cyflym a bywyd go iawn.

SARA MUGABO – PAENTIO’R DYFODOL

Mae dur sydd â haen organig (wedi’i baentio) yn cael ei ddatgelu i lawer o amodau yn ystod ei gyfnod o wasanaeth o’r amodau tywydd garw amrywiol ym mhedwar ban byd, datguddiad UV a llygredd. Gyda rhai cynhyrchion dur â haen arnynt bellach yn dod â gwarant 40 mlynedd, mae’n hanfodol deall sut bydd y cynhyrchion hyn yn perfformio. Mae Catherine yn trafod yr heriau o ddefnyddio’n technegau profi uwch i ddeall perfformiad yr haenau hyn ar ôl profion datguddio cyflym a bywyd go iawn.

PHIL ANSELL – SGILIAU ER MWYN LLWYDDO

Er gwaethaf ennill gradd 2:1 mewn Cemeg, nid oedd Phil wedi gallu manteisio ar ei fedrusrwydd academaidd. Mae Phil yn dweud wrthym sut mae ei EngD wedi effeithio ar ei fywyd ac mae’n rhoi cipolwg ar ei rôl newydd gydag Akzo Nobel yn datblygu haenau cynaliadwy sy’n gwrthsefyll cyrydiad.

JAMES EDY – DATBLYGU’R GENHEDLAETH NESAF O DDEUNYDD PECYNNU BWYD

Bydd llawer ohonom yn agor pecyn bwyd ac yn ei roi yn y bin ailgylchu heb lawer o ystyriaeth am y datblygiadau technolegol sydd wedi’i greu. Mae deddfwriaeth Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) wedi golygu bod llawer o ddeunydd pecynnu bwyd yn cael ei ail-feistroli ac mae James Edy wedi bod yn rhan o’r gwaith o nodweddu a dylanwadu ar ffurf haenau newydd a fydd yn effeithio arnom i gyd yn ein bywydau beunyddiol.

SEAN JAMES – BRWYDRO YN ERBYN BACTERIA

Mae Sean wedi dod yn arbenigwr arweiniol yn y gwaith o ddefnyddio bywleiddiaid newydd o ganlyniad i’r sgiliau a wnaeth eu hennill ar ei gwrs EngD. Mae ei yrfa bellach yn datblygu mewn ffordd ragorol ar ôl cael swydd yn y cwmni a oedd yn ei noddi ac mae’n defnyddio nid yn unig ei sgiliau academaidd ond ei fedrusrwydd rheoli a ddatblygwyd yn ystod hyfforddiant ei gwrs EngD.

UWCHRADDIO CYSYNIADAU O’R LABORDY I’R FARCHNAD

Mae prosiect Des Brennan, dan nawdd Tata Steel Colors, yn archwilio ‘uwchraddio cysyniadau o’r labordy i’r farchnad’ ac mae wedi rhoi’r cyfle iddo ddefnyddio ei gefndir ym maes ffiseg mewn proses mewn diwydiant i wella cynhyrchedd.

TANWYDDAU SOLAR I GREU A STORIO YNNI FEL GWRES NEU FIO-OLEW

Bydd datrys yr her lanweithdra yn y gwledydd datblygol yn gofyn am arloesiadau radical newydd y mae modd eu defnyddio ar raddfa fawr. Mae angen arloesedd yn arbennig mewn ardaloedd poblog iawn, lle mae biliynau o bobl yn dal ac yn storio eu gwastraff heb unrhyw ffordd gynaliadwy o’i drin unwaith y mae eu storfa ar y safle, fel tanc septig neu bwll geudy, wedi cael ei llenwi.

YMCHWILIO I FECANWEITHIAU CYRYDU HAENAU METELIG AMDDIFFYNNOL Y GENHEDLAETH NESAF (ZMAS) AR GYFER DUR

Mae Tom Lewis wedi bod yn ymchwilio i ymddygiad meteleg a chyrydu cenhedlaeth newydd o haenau swyddogaethol wedi’u dylunio i ddiogelu cynhyrchion dur trwy aberthu eu hunain. Mae gwaith Tom wedi canolbwyntio ar ddefnyddio technegau newydd i asesu’r mecanweithiau cyrydu sylfaenol ar lefel microstrwythurol a chyfraddau diraddiad deunyddiau sy’n gysylltiedig â chynnwys aloion.

ASESIAD O WEITHGARWCH BACTERIOLEIDDIOL BYWLEIDDIAD POLYMERIG NEWYDD AR GYFER HAENAU

Mae Sean James, Peiriannydd Ymchwil, wedi bod yn gweithio gyda Hybrisan i egluro’r mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i weithredu bywleiddiad sy’n seiliedig ar bolymer newydd er mwyn rheoli ymlyniad bacterol, atal aeddfediad bioffilmiau, ac ansefydlogi bioffilmiau sefydledig.

TRIN DŴR

Gwnaeth BASF noddi Ashley drwy gwrs MRes a chwrs EngD ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy gydol y prosiectau Meistr ac EngD, gwnaeth ennill cyfres fawr o sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd, o’r synthesis newydd o nono-ronynnau metelaidd i addasu cyfansoddion er mwyn creu is-haenau newydd ar gyfer ffotoddiraddiad.

LAMINAD FFOTOFOLTÄIG HYBLYG A THRYLOYW

Gwnaeth yr ymchwilydd Daniel Bryant gyflwyno dyluniad newydd ar gyfer celloedd solar a wnaeth leihau costau gweithgynhyrchu ac amser cynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau y mae’r ddaear yn gyfoeth ohonynt a laminad newydd a wnaeth ei ddatblygu.

ATALWYR CYRYDU SY’N ECOGYFEILLGAR
ED LESTER-CARD – CHWYLDROI TRIN DŴR

Caiff biliynau o litrau o ddŵr eu defnyddio bob blwyddyn mewn prosesau diwydiannol at ddibenion sy’n amrywio o wresogi ac oeri hyd at ddefnyddio iriad. Ar ôl i’r dŵr gael ei ddefnyddio, mae’n rhaid iddo gael ei drin a’i anfon yn ôl i’r system ddŵr. Mae Ed wedi bod yn gweithio ar y broblem o drin dŵr a defnyddio datrysiadau gwyrdd newydd ar gyfer trin dŵr ac mae’n dweud wrthym am effaith ei ymchwil.

CARLOS LLOVO VIDAL – DENU TALENT I DDE CYMRU

Roedd Carlos yn ddigon ffodus i weld hysbyseb am y cynllun M2A yn ei dref enedigol yn Sbaen. Gan sylweddoli ar y cyfle oedd ar gael, gwnaeth Carlos gyflwyno cais ar unwaith i astudio ar gyfer MSc gyda’r rhaglen M2A a Tata Steel. Ar ôl rhagori yn ei radd Meistr, mae Carlos bellach wedi sicrhau swydd gyda Tata Steel, gan ddewis aros yn Ne Cymru i feithrin ei yrfa.

YMCHWILIO I DUEDDIADAU YNG NGHYNNWYS COPR A METELAU GWERTHFAWR MODIWLAU RAM MEWN CYFARPAR TRYDANOL AC ELECTRONIG GWASTRAFF: GOBLYGIADAU AR GYFER POTENSIAL AILGYLCHU TYMOR HIR

Mae arbenigedd Rhys wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i lywio polisi ar yr economi gylchol a chafodd wahoddiad hefyd i “ddadl seneddol y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Adnoddau Cynaliadwy (APSRG)”, ar ailwampio rheoliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff y DU, a wnaeth arwain at gyfranogiad yn ymgynghoriadau polisi’r UE ym Mrwsel.

O E-WASTRAFF I YNNI GWYRDD

Mae’r fideo hwn yn trafod gwerth gwastraff fel adnodd ac yn dangos ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe i asesu hyfywedd defnyddio thermogyplau gwastraff fel ffynhonnell platinwm ar gyfer celloedd solar wedi’u sensiteiddio gan liw (DDSCs).

TWYERAU FFWRNEISI OCSIGEN SYLFAENOL (BOF) A DATBLYGU LEININ GWRTHSAFOL AMGYLCHYNOL

Gwnaeth dadansoddiad yr ymchwilydd Szymon Kubal o dwyerau arwain at ddylunio elfen gymysgu newydd ar gyfer ffwrneisi ocsigen sylfaenol. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i ynni cymysgu gael ei gyflwyno’n gyson i’r system ac ehangu oes wasanaeth leinin gwrthsafol, gan wella argaeledd llestri yn gyffredinol.

DYLUNIAD AERODYNAMIG BLOODHOUND HEB DWNNEL GWYNT

Mae Dr Ben Evans o Brifysgol Abertawe yn esbonio sut mae Dynameg Hylif Cyfrifiadol wedi helpu’r dylunwyr i lunio Car Uwchsonig Bloodhound.

MATTHEW KEAR – “DATA UN UNIGOLYN YW SŴN UNIGOLYN ARALL” – K.C. COLE

Mae presenoldeb sŵn mewn unrhyw amgylchedd diwydiannol yn arwydd o drosglwyddiad ynni sy’n gallu bod yn niweidiol i gyfarpar a phersonél. Mae Matthew wedi defnyddio ei amrywiaeth eang o sgiliau peirianneg, a enillwyd ar y cwrs EngD, i ragfynegi’n llwyddiannus y lefelau sŵn a grëir gan blatiau cyfyngu agorfeydd. Cyflawnwyd hyn drwy gyfuniad o arbrofi a chynhyrchu modelau cyfrifiadol aml-ffiseg. Mae ei waith wedi gwella proffil y cwmni sydd yn ei noddi’n sylweddol, fel arbenigwyr arweiniol y byd yn y maes sŵn platiau cyfyngol. Mae bellach ganddynt ddealltwriaeth ddofn o greu sŵn, sy’n gallu cael ei defnyddio ar gamau cynnar y broses ddylunio.

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil o dan arweiniad diwydiant i ôl-raddedigion ar Gampws y Bae, sef campws newydd Prifysgol Abertawe. Ariennir M2A yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.