Gwybodaeth Allweddol

Goruchwylwyr Academaidd: Dr Natalie Wint (Prif Oruchwyliwr) a Dr Eifion Jewell

Goruchwyliwr Diwydiant: Mark Mainwaring a James Edy

Dyddiad Disgwyliedig y Cyfweliad: Mai 2022

Cefndir:

Mae dur yn cynnig opsiwn economaidd a chynaliadwy ar gyfer deunydd pacio ac fe’i defnyddir mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys bwyd, diodydd a chynwysyddion aerosol. Mae tun electroplat a chromiwm wedi cael eu defnyddio ar gyfer amddiffyn deunydd pacio dur rhag cyrydu am dros 60 mlynedd ac maent yn cynnig system effeithiol. Fodd bynnag, gyda chromiwm chwefalent yn gydran fawr o’r electrolyt ar gyfer goddefoli tunplat a dur wedi’u haenu â chromiwm electrolytig (ECCS), mae’r gofynion ar gyfer cydymffurfio â Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) yn rhoi llawer o gyfyngiadau ar weithgynhyrchwyr deunydd pacio dur.

Mae ECCS yn cynnwys haen o gromiwm sydd ond 20nm (50mg.m-2) o drwch ac, yn ogystal â bod â gwrthiant cyrydu da, mae hefyd yn cynnig arwyneb rhagorol ar gyfer glynu lacrau organig y’u defnyddir ar gyfer amddiffyniad ychwanegol ac estheteg. Mae ECCS hefyd yn economaidd iawn o ganlyniad i’r haen nano-cromiwm denau. Er bod amnewidiadau cromiwm trifalent ar gyfer ECCS yn y broses o fasnacheiddio ar hyn o bryd, mae yna gwestiynau strategol o hyd ynghylch dulliau eraill o ddarparu gwrthiant cyrydu addas a lacro digonol o gynhyrchion melin dun fel amnewidiad ar gyfer ECCS. Mae cost gynyddol tun a’r ffaith mai’r pwysau isaf i haen yw ~1.0g.m-2 yn golygu bod amnewid yn uniongyrchol i dunplat yn aneconomaidd ar hyn o bryd.

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r defnydd o haenau tun isel (<1.0g.m-2), gan ymgorffori triniaeth amgen goddefoli heb gromiwm (CFPA) fel dewis arall i ECCS heb y gwariant cyfalaf uchel sydd ei angen ar gyfer adeiladu llinellau cynhyrchu haenau cromiwm trifalent newydd. Bydd angen i’r haen ddarparu gwrthiant cyrydu, yn ogystal â darparu arwyneb addas i roi gorhaen lacer organig neu laminad arno.

Nodau’r Prosiect:

——————————————————-

Mae COATED M2A yn cydnabod bod gan ymgeiswyr amryw o gefndiroedd gyda phrofiadau addysg ac ymchwil gwahanol. Nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn ddefnyddwyr medrus o unrhyw dechnegau/offer y sonnir amdanynt ar adeg y gwneir y cais. Ein ffocws yw uwchsgilio ein cyfranogwyr a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Mae COATED M2A, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn fenter Prifysgol Abertawe sy’n darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn partneriaeth â diwydiant, gan ddarparu mynediad at labordai o’r radd flaenaf a chyfoeth o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Mae COATED M2A wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel o fewn amgylchedd cynhwysol, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Prifysgol Abertawe a phartneriaid mewn diwydiant.

Wedi’u plethu drwy’r astudiaeth ymchwil mae cyrsiau busnes, technegol a entrepreneuraidd, wedi’u dylunio i gefnogi a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer rôl uwch mewn diwydiant neu’r byd academaidd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod gwaith a ymgymerir gan sefydliadau i ddatblygu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r Coleg Peirianneg yn ddeiliad gwobr efydd Athena SWAN ac yn ymrwymedig i fynd i’r afael â chynrychiolaeth rhywedd anghyfartal. Croesewir ceisiadau gan fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir yn arbennig. Bydd pob cais yn cael ei wneud yn ddienw cyn y broses o lunio rhestr fer.

A ydych chi’n ystyried gwneud cais ac a oes gennych gwestiynau yr hoffech wedi’u hateb? Dewch i gael sgwrs un-i-un gyda ni yn ein cymhorthfa ymgeiswyr (Dolen). Rydym yn annog pob ymgeisydd i adolygu ein dogfen awgrymiadau a welir yma

Cwmni sy’n Noddi:  Tata Steel UK

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fel arfer fod ag o leiaf gradd israddedig ar lefel 2.1 (neu gyfwerth o’r tu allan i’r DU fel y diffinnir gan Brifysgol Abertawe), neu gyfuniad o radd a phrofiad cyfwerth i’r un lefel.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi bodloni gofynion Saesneg y brifysgol (e.e. IELTS 6.5 yn gyffredinol gyda 5.5+ ym mhob cydran) pan wneir y cais.

Gellir gweld cymhwysedd llawn yn https://materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd/

Ariannu

Ffioedd ar gyfradd y DU a chyllid o £20,000.00, y ddau ar gyfer cyfnod o bedair blynedd.

Ar gyfer manylion llawn ar gymhwysedd cyllido, cyfeiriwch at wefan yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A). Cymhwysedd Myfyrwyr | M2A (materials-academy.co.uk/cy/cymhysedd).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i fyw/gweithio yn y DU ar ddechrau eu hastudiaethau (nid yw fisas myfyrwyr yn berthnasol).

Dyddiad cau: 3 Ebrill 2022

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2022

Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth ymchwil hon dros e-bost at:

M2A@swansea.ac.uk